Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Lleoliad Allanol. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sulafa Thomas, x6227 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad

1.a

Cyflwyniad ac ymddiheuriadau

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau.

1.b

Datgan buddiannau

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau ffurfiol o fuddiant.

1.c

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunodd y Comisiynwyr ar gofnodion y cyfarfod ar 8 Chwefror.

2.

Cyfeiriad Strategol y Comisiwn

Cofnodion:

Myfyriodd y Comisiynwyr ar yr hyn a ddysgwyd drwy’r darnau mwyaf arwyddocaol o waith y Comisiwn, ac agweddau allweddol arno yn ystod y Bumed Senedd, ochr yn ochr â ffactorau sy'n sbarduno newid hyd y gellir rhagweld i ddarparu cyfeiriad i'r strategaeth ar gyfer y Chweched Senedd. 

Fe wnaethant drafod agweddau yn ymwneud â phob un o'u meysydd portffolio a rhoi adborth i lywio'r crynodeb o fyfyrdodau a'r ffactorau sy’n sbarduno newid i’w cyflwyno i’r Comisiwn nesaf. Fe wnaethant nodi’r manteision o ehangu dealltwriaeth o rôl a chyfrifoldebau'r Comisiwn, a gofyn am roi ffocws ar helpu dinasyddion i ddeall rolau Aelodau o’r Senedd.

3.

Strategaeth Carbon Niwtral 2021-2030

Cofnodion:

Trafododd y Comisiynwyr strategaeth arfaethedig yn amlinellu gweithgareddau, buddsoddiad a newid ymddygiad a fyddai’n angenrheidiol i'r sefydliad gyrraedd niwtralrwydd carbon net erbyn 2030.

Gofynnodd y Comisiynwyr gwestiynau yn ymwneud â theithio, trafnidiaeth, a mannau gwyrdd ar yr ystâd, gan awgrymu y gallai cynnwys cymunedau lleol fod yn ddull cadarnhaol.

Cytunodd y Comisiynwyr ar y Strategaeth Carbon Niwtral, ac y dylid ei chyhoeddi.

4.

Opsiynau o ran Adnewyddu Contract Arlwyo

Cofnodion:

Trafododd y Comisiynwyr wybodaeth yn ymwneud â'r contract arlwyo, y disgwylir iddo gael ei adnewyddu o 1 Medi 2021.  Fe wnaethant drafod ansicrwydd ynghylch gweithredu’r gwasanaeth yn y dyfodol wrth i ni ddod allan o'r pandemig, gyda gweithio mwy hyblyg a gweithio hybrid.

Cytunodd y Comisiynwyr i estyn y contract arlwyo presennol am 12 mis er mwyn rhoi cyfle i ddatblygu dealltwriaeth well o anghenion a gofynion yn y dyfodol ar ôl dychwelyd i'r swyddfa yn ehangach.   

5.

Gwaith dilynol ar y Tasglu Digidol

Cofnodion:

Trafododd y Comisiwn ddatblygiadau mewn perthynas ag argymhelliad a wnaed gan adroddiad y Tasglu Newyddion a Gwybodaeth Digidol a oedd yn nodi y dylid sefydlu gwasanaeth gwifren newyddion annibynnol, hyd braich. Trafododd y Comisiynwyr ddatblygiadau diweddar ym maes y cyfryngau yng Nghymru, a chytunwyd ar yr adeg hon y dylai Swyddogion y Comisiwn barhau i gefnogi'r gwasanaethau newyddion hyn sy'n dod i'r amlwg cyn dychwelyd i ystyried a fyddai angen unrhyw gymorth ariannol.

6.

Pontio dros gyfnod yr etholiad

Cofnodion:

A - Agoriad Swyddogol y Chweched Senedd

Rhoddwyd trosolwg i'r Comisiynwyr o'r dull o gynllunio ar gyfer Agoriad Swyddogol y Chweched Senedd, gan adlewyrchu y byddai ar ffurf wahanol i achlysuron blaenorol. Byddai’r agoriad yn canolbwyntio ar gyfuniad o ddigwyddiadau rhithwir a ffisegol i nodi’r achlysur mewn ffordd ddiogel o ran covid.

B - Trefniadau ar gyfer busnes y Comisiwn yn ystod cyfnod yr etholiad

Cytunodd y Comisiynwyr y gellir ymdrin â materion y mae angen eu trafod yn ystod cyfnod y toriad, y diddymiad a’r cyfnod cyn yr etholir y Comisiynwyr newydd drwy ohebiaeth e-bost, oni bai bod y Comisiynwyr neu'r Llywydd yn teimlo bod angen cyfarfod.

C - Gohirio penderfyniad yn ymwneud â llogi swyddfeydd at ddefnydd personol, o gyfarfod y Comisiwn ym mis Chwefror

Nododd y Comisiynwyr lythyr gan y Bwrdd Taliadau mewn ymateb i'w cais i ddeall safbwynt y Bwrdd o ran unrhyw ddefnydd personol o swyddfeydd lleol yn ystod y cyfnod cyn y diddymiad.

Roedd y Bwrdd wedi cytuno i ganiatáu i Aelodau sy’n sefyll i gael eu hailethol logi eu swyddfeydd lleol at ddefnydd personol yn ystod y cyfnod cyn y diddymiad. Roeddent wedi nodi amodau penodol gan gynnwys dileu/gorchuddio arwyddion, yr angen i gytuno ymlaen llaw i dalu 100 y cant o'r costau, a phe bai Aelod yn penderfynu rhentu'r swyddfa at ei ddefnydd personol, ni ddylid ystyried bod hyn yn atal yr Aelod rhag defnyddio'r swyddfa hefyd ar gyfer y gweithgareddau a ganiateir. Gall hyn olygu bod staff sy’n canolbwyntio ar waith achos wedi’u lleoli mewn swyddfa a gafodd ei llogi gan yr Aelod at ddibenion ymgyrchu. Gwnaethant ofyn a allai’r Comisiwn, yn y cyfnod cyn yr etholiad, gyhoeddi rhestr o’r rhai sydd wedi ymrwymo i’r cytundebau hyn.

Cytunodd y Comisiynwyr i ymestyn y cyfnod y mae llogi swyddfeydd etholaethol neu ranbarthol at ddefnydd personol yn opsiwn i gynnwys cyfnod y diddymiad ffurfiol. Felly, byddent ar gael i’w llogi am holl gyfnod yr etholiad, a byddai manteisio ar yr opsiwn hwn yn ei gwneud yn ofynnol i'r Aelod dalu 100 y cant o'r costau, a byddai’n glir mai'r Aelod, nad y trethdalwr, sy'n talu costau’r swyddfa tra bydd yn cael ei defnyddio ar gyfer gweithgareddau ymgyrchu.

O ran defnyddio offer a gwasanaethau TGCh  at ddibenion personol/ymgyrchu yn ystod cyfnod yr etholiad, byddai’r Comisiwn yn cynghori’r Aelodau y dylai unigolion sydd am logi offer chwilio am opsiynau sydd ar gael yn fasnachol.

7.

Amodau Diogelwch a Defnyddio TGCh

Cofnodion:

Cafodd y Comisiynwyr y rheolau diogelwch TGCh wedi'u diweddaru (a elwir yn Amodau Diogelwch a Defnyddio TGCh) ar gyfer Aelodau. Mae'r rheolau yn nodi'r amodau y mae'n rhaid eu cymhwyso i ddefnyddio system TGCh y Senedd i ddiogelu system TGCh y Senedd rhag defnydd amhriodol, a all wneud y Senedd yn agored i risgiau sy'n cynnwys colli neu ddwyn gwybodaeth, seiberymosodiadau a methiannau gwasanaeth.

Trafododd y Comisiynwyr rai agweddau ar y rheolau, y mae'n ofynnol i'r holl ddefnyddwyr eu derbyn cyn cael mynediad at System TGCh y Senedd. Dywedodd un y byddai wedi bod yn ddefnyddiol gallu cymharu manylion y ddogfen newydd yn uniongyrchol â'r fersiwn bresennol. Roedd y diweddariad yn adlewyrchu amodau seiberddiogelwch esblygol, seilwaith TGCh y Senedd, gofynion busnes ac arferion da ar gyfer yr amgylchedd gwaith.

Cytunodd y Comisiynwyr ar y fersiwn wedi'i diweddaru o’r Amodau Diogelwch a Defnyddio TGCh a fyddai’n gymwys i’r defnydd gan Aelodau o'r Senedd a'u staff o system TGCh y Senedd o ddechrau'r Chweched Senedd.

8.

Diweddariad ynghylch COVID-19

Cofnodion:

Rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf i'r Comisiwn am y trefniadau sydd ar waith tra bod y Senedd yn parhau i weithredu o dan reoliadau a chanllawiau presennol Llywodraeth Cymru.

Fe wnaethant nodi'r wybodaeth a ddarparwyd, y gallai materion pellach godi yn sgil yr adolygiadau coronafeirws gan Lywodraeth Cymru sydd ar ddod, a thynnwyd sylw at y ffaith y bu ymholiadau ynghylch defnyddio'r ystâd i hybu ymwybyddiaeth o'r etholiad.

Cytunodd y Comisiynwyr i ddirprwyo’r penderfyniadau fesul achos i Swyddogion y Comisiwn mewn perthynas â defnydd cyfyngedig o’r ystâd at ddibenion sy’n gysylltiedig â gwaith, megis gan y cyfryngau i hyrwyddo etholiadau’r Senedd, fel y mae’r rheoliadau’n caniatáu.

9.

Papurau i'w nodi:

9.a

Adolygiad o’r Fframwaith ar gyfer Ymgysylltiad Rhyngwladol

Cofnodion:

Nododd y Comisiynwyr wybodaeth am y gwaith rhyngwladol a wnaed gan y Senedd ar gyfer y cyfnod rhwng mis Ionawr 2019 a mis Mawrth 2021.

9.b

Rheolau’r Swyddog Cyfrifyddu ar ddefnyddio adnoddau Comisiwn y Senedd – diweddariad ar gyfer y Chweched Senedd

Cofnodion:

Nododd y Comisiynwyr y fersiwn wedi’i diweddaru o Reolau a Chanllawiau’r Swyddog Cyfrifyddu ar ddefnyddio Adnoddau’r Senedd a fydd yn gymwys o ddechrau'r Chweched Senedd. Cyhoeddir y Rheolau hyn o dan awdurdod Cod Ymddygiad Aelodau o'r Senedd, ac adran 138 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

9.c

Canlyniadau Arolwg Staff y Comisiwn

Cofnodion:

Nododd y Comisiynwyr yr adroddiad Arolwg Staff, sef y cyntaf a gynhaliwyd trwy arbenigwr arolwg annibynnol. Gwnaethant gytuno i gyhoeddi’r adroddiad cryno.

9.d

Diweddariad gan y Bwrdd Gweithredol (penderfyniadau RAD)

Cofnodion:

Nododd y Comisiynwyr y crynodeb arferol o benderfyniadau o ran recriwtio.

9.e

Cofnodion Drafft ARAC Chwefror 2021

Cofnodion:

Nododd y Comisiynwyr y diweddariad arferol ynghylch cyfarfodydd ARAC (y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg).

10.

Unrhyw fater arall

Cofnodion:

·       Nododd y Comisiynwyr lythyr gan y Bwrdd Taliadau yn cadarnhau bod y Bwrdd bellach wedi ymgorffori darpariaeth gyfredol gan y Comisiwn ar gyfer costau deunydd ysgrifennu / swmp-bostio / argraffu’r Aelodau yn y Penderfyniad ar gyfer y Chweched Senedd, ac y bydd darpariaeth uniongyrchol y Comisiwn yn dod i ben ar yr un adeg yn unol â hynny. 

·       Gofynnwyd i'r Comisiynwyr lenwi eu ffurflenni Datgan Buddiannau.

·       Cytunodd y Comisiynwyr y gallai dwy eitem sydd i'w hanfon i'r Pwyllgor Cyllid mewn ymateb i'w hargymhellion yn dilyn gwaith craffu ar y gyllideb gael eu cymeradwyo gan Suzy Davies y tu allan i’r cyfarfod. Mae'r materion yn ymwneud â diweddariad ar lesiant a diweddariad o oblygiadau ariannol sy’n ymwneud â covid.

·       Gan gyfeirio at ymholiad ynglŷn â dyrannu trwydded TGCh a oedd yn bodoli eisoes i aelod o staff cymorth ar gyfer gweithgareddau a ganiateir yn ystod cyfnod yr etholiad, eglurwyd, mewn amgylchiadau o absenoldeb estynedig, y gellid cyfnewid yr unigolyn a enwyd am aelod arall o staff, ac y dylid cysylltu â’r Ddesg Gymorth TGCh.

 

Diolchodd y Llywydd i'r Comisiynwyr am y dull gwybodus a fabwysiadwyd ganddynt wrth gyflawni eu rolau yn ystod y Bumed Senedd.