Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Presiding Officer's Office - 4B

Cyswllt: Carys Evans, Principal Commission Secretary 029 2089 8598 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad y Cadeirydd

·        Cyflwyniad ac ymddiheuriadau

·        Datgan buddiannau

1a

Cyflwyniad ac ymddiheuriadau

1b

Datganiadau o fuddiant

Cofnodion:

Nid oedd buddiannau i’w datgan.

2.

Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) a’r Cynllun Ieithoedd Swyddogol

Cofnodion:

Gosododd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yr adroddiad ar drafodaethau Cyfnod 1 ar egwyddorion cyffredinol Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) a’r Cynllun Gwasanaethau Dwyieithog gerbron y Cynulliad ar 4 Mai.

Ystyriodd y Comisiynwyr oblygiadau argymhellion y Bil a’r Cynllun a chytunwyd ar y modd y byddai’r Comisiynydd sy’n gyfrifol yn cyfrannu at y ddadl Cyfnod 1 ar 16 Mai.

Wrth benderfynu sut y dylai ymateb, ystyriodd y Comisiwn:

·         Ei uchelgais i gael i gydnabod fel corff seneddol dwyieithog sy’n esiampl i eraill a’i ymrwymiad i wella’i wasanaethau dwyieithog;

·         Yr angen sicrhau hyblygrwydd er mwyn medru datblygu a gwella gwasanaethau dros gyfnod;

·         Costau unrhyw gyfrifoldebau newydd sydd wedi’u cynnwys yn argymhellion adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ac effaith ei flaenoriaethau ar gyfer gwella gwasanaethau dwyieithog mewn gwahanol ffyrdd;

·         Y gwaith ymgynghori a wnaed yn 2011 cyn y broses ddeddfu;

·         Yr angen i sicrhau bod staff yn gwbl ymwybodol o oblygiadau’r Bil a’r Cynllun ar wasanaethau; 

·         Yr angen i sicrhau nad yw deddfwriaeth i geisio sicrhau bod ieithoedd swyddogol yn cael eu trin yn gyfartal yng ngwaith y Cynulliad yn cyfyngu’n anfwriadol ein gallu i newid y modd y caiff gwasanaethau eu darparu.

3.

Unrhyw Fusnes Arall

Cofnodion:

Trafododd y Comisiynwyr y sylw a gafodd y Cynulliad yn y cyfryngau yn ddiweddar.