Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Davies
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.30) |
Cyflwyniad ac ymddiheuriadau Cofnodion: 1.1
Croesawodd
y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor. Ni
chafwyd unrhyw ymddiheuriadau. 1.2
Croesawodd
y Cadeirydd Eluned Parrott AC i'r cyfarfod yn dilyn ei hetholiad i'r Pwyllgor ar
30 Medi 2014, a nodwyd ei ddiolch i Kirsty Williams AC am ei chyfraniad at
waith y Pwyllgor. |
|
(09:30) |
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Nodwyd y
papurau. |
|
(09:30-09:35) |
Enwebu Aelod Pwyllgor o dan Adran 10.2 o'r Weithdrefn Gwynion Cofnodion: 3.1
Enwebwyd Mark Isherwood AC i weithredu yn unol ag Adran 10.2 o'r weithdrefn gwynion. |
|
(09.35-09.45) |
Adroddiad Blynyddol 2014 y Grŵp Trawsbleidiol SOC(4)-01-15 papur 1- Addroddiad Blynyddol Grwpiau
Trawsbleidiol 2014 Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1 Nodwyd
yr adroddiad. |
|
(9.45-10.30) |
Cofrestru a Datgan Buddiannau SOC(4)-01-15 papur 2 - Llythyr gan y Llywydd ar Gofrestru
a Datgan Buddiannau’r Aelodau SOC(4)-01-15 papur 3 - Y canllaw diweddaraf i Aelodau ar
gofrestru, datgan a chofnodi buddiannau ariannol a buddiannau eraill SOC(4)-01-15 papur 4 - Y canllaw diweddaraf i Aelodau ar
gofrestru, datgan a chofnodi buddiannau ariannol a buddiannau eraill Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Nododd
yr Aelodau'r llythyr a'r adroddiad gan y Llywydd ynghylch Cofrestru a Datgan
Buddiannau'r Aelodau a chytunwyd y byddai'r Cadeirydd yn ymateb i'r perwyl
hwnnw, yn ogystal â darparu amserlen ar gyfer pryd yr hoffai'r Pwyllgor weld y
Rheolau Sefydlog newydd yn dod i rym. 5.2
Trafododd Y Pwyllgor y canllawiau diwygiedig a chytunwyd i gyflwyno'r adroddiad
i'w grwpiau ac adrodd yn ôl i'r Pwyllgor ar 12 Mai. 5.3 Nododd
y Pwyllgor y newidiadau arfaethedig i'r Cod Ymddygiad. 5.4
Cytunwyd y byddai'r Pwyllgor yn dychwelyd i roi'r penderfyniad terfynol
ynghylch yr eitemau hyn yn y cyfarfod ar 12 Mai. Yn dilyn hynny, bydd y clercod
yn gofyn am ddadl yn y Cyfarfod Llawn er mwyn i'r materion gael eu trafod a
chynnal pleidlais arnynt. |