Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lara Date
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(9.30) |
Cyflwyniad ac ymddiheuriadau Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau gan Llyr Gruffydd. O dan Reol Sefydlog 22.4, ni chaniateir unrhyw ddirprwyon. Cytunwyd y byddai’r Pwyllgor yn cael papur gan y gwasanaethau cyfreithiol ynghylch a oes modd defnyddio cosb gwahardd. Bydd hyn yn cael ei ystyried yn y cyfarfod nesaf ar 24 Ebrill. |
|
(09.30 - 10.15) |
Adolygu'r côd ymddygiad a'r weithdrefn gwyno: Gweithdrefn gwyno ddiwygiedig ddraft Gerard Elias QC, Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Aeth y Comisiynydd drwy’r gwelliannau arfaethedig i’r weithdrefn gyda’r Pwyllgor. Cytunodd y Pwyllgor y byddai’r Comisiynydd yn rhoi rhagor o ystyriaeth i’r hyn a ganlyn: - aileirio adran 8.2; - adolygu’r geiriad ynghylch cael person cymwys annibynnol i ystyried apelau mewn perthynas â dulliau o warchod yn erbyn gwrthdaro rhwng buddiannau; - sicrhau bod geiriad 6.1 yn ystyried y pryderon ynghylch y posibilrwydd o dramgwyddo’n droseddol mewn perthynas â chofnodi cyflogaeth aelodau o’r teulu (Rheol Sefydlog 2.5ii). Cytunodd y Pwyllgor ar y gwelliannau mewn egwyddor a nododd y byddai fersiwn derfynol yn cael ei chymeradwyo’n ffurfiol yn y cyfarfod nesaf. Nododd y Cadeirydd y byddai amserlen ar gyfer cyfnod nesaf yr arolwg yn cael ei hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 24 Ebrill. |
|
Trawsgrifiad |