Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lara Date 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

 

1.1 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

2.

Enwebu aelod o'r pwyllgor o dan Adran 10.2 o'r Weithdrefn Gwyno

Cofnodion:

2.1 Enwebwyd Kirsty Williams AC i weithredu, yn unol ag Adran 10.2 o’r Weithdrefn Gwyno.

(09.30 - 09.50)

3.

Adroddiad Blynyddol y Comisiynydd Safonau 2010-11

SOC(4)-01-11 (p1)

 

Gerard Elias QC, Y Comisiynydd Safonau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Nododd y Pwyllgor adroddiad blynyddol y Comisiynydd. Bydd y gwallau cyfieithu yn y fersiwn Gymraeg o’r adroddiad yn cael eu cywiro.

(09.50 - 10.30)

4.

Adolygiad o'r Weithdrefn Gwyno, y Cod Ymddygiad a'r Rheolau Sefydlog

SOC(4)-01-11 (p2)

 

Gerard Elias QC, Y Comisiynydd Safonau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Cytunodd y Pwyllgor ar ddull o weithredu’r adolygiad, a nodir ym mhapur y Comisiynwyr.

(10.30 - 10.50)

5.

Adolygiad o'r Canllawiau ar Gofrestru Buddiannau Ariannol a Buddiannau Eraill yr Aelodau

SOC(4)-01-11 (p3)

 

Gareth Rogers, Pennaeth y Swyddfa Gyflwyno

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

 

5.1 Cytunodd y Pwyllgor i adolygu’r rheolau ar gofrestru buddiannau ariannol a buddiannau eraill yr Aelodau. Bydd y gwaith hwn yn rhan o gyfnod 2 o’r broses adolygu a amlinellwyd ym mhapur y Comisiynydd, a drafodwyd yn ystod yr eitem flaenorol. 

Trawsgrifiad