Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Meriel Singleton 

Eitemau
Rhif Eitem

Trawsgrifiad

1.

Cyflwyniad ac ymddiheuriadau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd aelodau'r Pwyllgor ac aelodau'r cyhoedd i'r cyfarfod.

 

2.

Adolygu'r Cod Ymddygiad a Chanllawiau Cysylltiedig: Cofrestr Buddiannau Ariannol yr Aelodau (09.35 - 10.50)

SOC(4)-06-13 – Papur 1

 

  • Gerard Elias QC, Y Comisiynydd Safonau
  • Gareth Rogers, Pennaeth y Swyddfa Gyflwyno

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Trafododd aelodau'r Pwyllgor bapur y Comisiynydd Safonau a mynegi barn ar yr adrannau y tynnwyd sylw atynt er mwyn cynorthwyo'r ymarfer ymgynghori sydd i ddod.

 

2.1 Cytunodd yr Ymgynghorydd Cyfreithiol i gysylltu â'r Comisiynydd Safonau ynghylch cofrestru deuol mewn perthynas â nawdd ariannol.

 

3.

Papurau i’w nodi

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Gorffennaf 2013

 

SOC(4)-06-13 papurau 2, 3, 4 a 5

 

  • Y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gwasanaeth Ymchwil am Fil Lobïo y DU
  • Gohebiaeth rhwng y Llywydd ac Andrew Lansley ynghylch y Bil Tryloywder Lobïo, Ymgyrchu gan Grwpiau Di-blaid a Gweinyddu Undebau Llafur
  • Llythyr gan y Llywydd at Wayne David ynghylch y Bil Tryloywder Lobïo, Ymgyrchu gan Grwpiau Di-blaid a Gweinyddu Undebau Llafur
  • Llythyr gan Chwarae Teg ynghylch y Bil Tryloywder Lobïo, Ymgyrchu gan Grwpiau Di-blaid a Gweinyddu Undebau Llafur

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Nodwyd y papurau. Gofynnodd aelodau'r Pwyllgor am adroddiadau ar hynt Bil Lobio'r DU.