Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Cyswllt: Fay Buckle
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod. |
||
(09:00) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Croesawodd
y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod. |
|
(09:00 - 10:00) |
Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG: Tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru PAC(4)-26-13
(papur 1) David Sissling - Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol/Prif Weithredwr, GIG Cymru Albert Heaney - Cyfarwyddwr
Gwasanaethau Cymdeithasol Alistair Davey -
Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi a Strategaeth Gwasanaethau Cymdeithasol Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Holodd
y Pwyllgor David Sissling, Cyfarwyddwr Cyffredinol ar gyfer Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol/Prif Weithredwr GIG Cymru, Albert Heaney, Cyfarwyddwr
Gwasanaethau Cymdeithasol, ac Alistair Davey, Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi a
Strategaeth Gwasanaethau Cymdeithasol ar y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer
Gofal Iechyd Parhaus y GIG. Camau i'w
cymryd Cytunodd
Llywodraeth Cymru i ddarparu data cronnol yn nodi nifer y ceisiadau sy'n cael
eu prosesu, lefelau clirio a nifer yr heriau a wneir i ganlyniadau. Cytunodd
Llywodraeth Cymru i ddarparu dadansoddiad manwl o'r achosion a gofnodwyd cyn
2010 ac ers hynny. |
|
(10:00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Eitemau 4 & 5 Cofnodion: 3.1
Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig. |
|
(10:05 - 10:20) |
Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 4.1
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd ar y Fframwaith Cenedlaethol ar
gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG a chytunodd i ystyried y wybodaeth ychwanegol
gan Lywodraeth Cymru pan fyddai'n dod i law ac i ysgrifennu adroddiad. Cytunwyd
hefyd i wahodd David Sissling yn ôl i'r Pwyllgor yn ystod tymor yr haf 2014 i
gael y wybodaeth ddiweddaraf am y fframwaith. |
|
(10:20 - 10:40) |
Penodi Aelodau a Chadeirydd anweithredol Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru PAC(4)-26-13 (papur 3) Cofnodion: 5.1 Nododd
y Pwyllgor yr adroddiad a chytunodd ag argymhellion y panel. 5.2
Cyhoeddir yr Adroddiad ar 9 Hydref 2013.
|