Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd
Cyswllt: Bethan Davies
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod. |
||
(09:00) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor.
Ni chafwyd ymddiheuriadau. |
|
(09:00-10:00) |
Craffu ar Gynnig Cyllideb Atodol 2014-15 FIN(4)-13-14 (papur 1) FIN(4)-13-14 (papur 2) FIN(4)-13-14 (papur 3) Briff ymchwil Jane Hutt AC – Y Gweinidog Cyllid Jo Salway – Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllidebu Strategol, Llywodraeth
Cymru Matt Denham-Jones - Pennaeth Rheoli a Chofnodi Cyllidebau
Ariannol, Llywodraeth Cymru Jeff Andrews – Cynghorydd Polisi Arbenigol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Jane Hutt AC, y Gweinidog Cyllid; Jo
Salway, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyllidebu Strategol, Llywodraeth Cymru; Matt
Denham-Jones, Pennaeth Rheoli a Chofnodi Cyllidebau, Llywodraeth Cymru; a Jeff
Andrews, Cynghorydd Polisi Arbenigol ar Gynnig Cyllideb Atodol 2014-2015. 2.2 Cytunodd y Gweinidog Cyllid i anfon y wybodaeth ychwanegol a ganlyn: ·
Sut y caiff yr £1.6 miliwn ychwanegol ar gyfer yr iaith Gymraeg ei
ddyrannu ·
Enghreifftiau o brosiectau cyfalaf sydd wedi sicrhau arbedion o ran cost,
a manylion y canlyniadau ·
Sut mae'r £6 miliwn ar gyfer trafodion ariannol wedi'i ddyrannu hyd yma ·
Rhagor o fanylion am yr addasiad i'r Gwariant a Reolir yn Flynyddol ar
gyfer Addysg a Sgiliau sy'n ymwneud â benthyciadau myfyrwyr 2.3 Cytunodd y Gweinidog Cyllid i ystyried y ffordd orau i ledaenu
manylion am brosiectau llai (o dan £15 miliwn) a sut y maent yn ymwneud â'r
Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru. |
|
(10:00-10:30) |
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015-16 Briff ymchwil Jane Hutt AC – Y Gweinidog Cyllid Jo Salway – Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllidebu Strategol,
Llywodraeth Cymru Matt Denham-Jones - Pennaeth Rheoli a Chofnodi Cyllidebau
Ariannol, Llywodraeth Cymru Jeff Andrews – Cynghorydd Polisi Arbenigol Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Trafododd yr Aelodau Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer
2015-16 gyda Jane Hutt AC, y Gweinidog Cyllid; Jo Salway, Dirprwy Gyfarwyddwr,
Cyllidebu Strategol, Llywodraeth Cymru; Matt Denham-Jones, Pennaeth Rheoli a
Chofnodi Cyllidebau, Llywodraeth Cymru; a Jeff Andrews, Cynghorydd Polisi
Arbenigol. 3.2 Cytunodd y Gweinidog Cyllid i anfon nodyn ynghylch ble mae manylion
cynlluniau menter preifat ledled y sector cyhoeddus yn cael eu cofnodi. |
|
(10:30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Eitemau 5 ac 6 Cofnodion: 4.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(10:30-11:15) |
Craffu ar Gynnig Cyllideb Atodol 2014-15: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
(11:15-12:00) |
Blaenraglen waith: Hydref 2014 FIN(4)-13-14 (papur 4) Cofnodion: 6.1 Trafododd yr Aelodau y rhaglen waith ar gyfer tymor yr hydref a'i
nodi. |