Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd
Cyswllt: Gareth Price
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(14:00 - 14:05) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod. 1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Ann Jones. |
|
(14:05 - 14:20) |
Adolygu'r argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor ar gyfer cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2012-2013 FIN(4) 13-12 – Papur 1 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Trafododd y pwyllgor argymhellion ei adroddiad ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2012-13 ac ymateb y Gweinidog Cyllid. 2.Cytunodd y pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am: · nodyn yn egluro pam fod y Gweinidog wedi dewis rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r pwyllgor ar ffurf adroddiadau cwarterol; · nodyn yn egluro rôl yr uned gyflawni. |
|
Papurau i'w nodi Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Nododd y pwyllgor gofnodion y cyfarfod blaenorol. 3.2 Nododd y pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru i ardoddiad y pwyllgor, ‘Pwerau benthyg a dulliau arloesol o ddefnyddio arian cyfalaf’ a chytunodd i gynnal dadl ar yr adroddiad. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Cofnodion: Eitemau 5 i 7. |
||
(14:20 - 15:05) |
Ystyried yr adroddiad drafft ar effeithiolrwydd cronfeydd strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru Cofnodion: 5.1 Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft ‘Effeithiolrwydd Cyllid Strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru’ ac awgrymodd welliannau. 5.2 Cytunodd y Pwyllgor i ystyried yr adroddiad drafft ymhellach mewn cyfarfod yn y dyfodol. |
|
(15:05 - 15:15) |
Ystyried y diwygiadau a wnaed i gyllidebau 2011-2012 - adroddiad alldro |
|
(15:15 - 15:45) |
Blaenraglen waith y Pwyllgor - Hydref 2012 Cofnodion: 7.1 Trafododd y Pwyllgor ei raglen waith ar gyfer tymor yr hydref 2012. |