Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13:00-13:05)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod.

(13:05-14:05)

2.

Cyllideb atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2011-2012 - y Gweinidog Cyllid

 

FIN(4)-03-12 – Papur 1 – Cyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2011-2012

FIN(4)-03-12 - Papur 2 - Comisiynydd y Cynulliad - Cyllideb Atodol

FIN(4)-03-12 - Paper 3 – Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

 

 

Jane Hutt AC, y Gweinidog Cyllid  

Jo Salway,  Pennaeth Cyllidebu Strategol
Martin Sollis, Dirprwy Cyfarwyddwr Cyllid
Jeff Andrews, Ymgyngnorydd Polisi Arbenigol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd Jane Hutt AC, y Gweinidog Cyllid; Jo Salway, Pennaeth Cyllidebu Strategol; Martin Sollis, y Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllid; a Jeff Andrews, Cynghorydd Polisi Arbenigol.

 

2.2 Holodd yr Aelodau y Gweinidog.

 

Pwyntiau gweithredu:

 

Cytunodd Llywodraeth Cymru i ddarparu:

 

·         Manylion am sut mae cyfalaf ychwanegol wedi cael ei fuddsoddi yn y portffolio Gwasanaethau Canolog.

·         Nodyn yn amlygu’r broses o gysoni’r prif grŵp gwariant addysg a sgiliau â’r strwythur yn y gyllideb ddrafft, gan adlewyrchu’r newidiadau i’r gyllideb atodol bresennol.

·         Eglurhad ynghylch a fydd Cronfa Twf Economaidd Cymru yn dod o’r Gronfa Fuddsoddi Sengl Etifeddol ac ynghylch a oedd tanwariant yn y Gronfa Fuddsoddi Sengl Etifeddol.

·         Rhagor o fanylion am y Gronfa Buddsoddi i Arbed, gan gynnwys eglurhad ynghylch ar gyfer pa flwyddyn ariannol y byddai’r £10 miliwn ychwanegol o gyllid buddsoddi i arbed (a gyhoeddwyd gan y Gweinidog ym mis Rhagfyr 2011) yn cael ei ddyrannu.

·         Rhestr o’r holl broffiliau gwobrwyo ac ad-dalu a wnaed o fewn y Gronfa Buddsoddi i Arbed.

3.

Papurau i'w nodi

 

FIN(4) 03-12 – Papur  4 – Gohebiaeth gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau ynghylch rhaglenni gwaith cenedlaethol grŵp arwain y gwasanaethau cyhoeddus. 

 

Cofnodion y cyfarfod blaenorol.

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau ynghylch Rhaglenni Gwaith Cenedlaethol grŵp arwain y Gwasanaethau Cyhoeddus.

 

3.2 Cadarnhaodd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod ar 25 Ionawr 2012.

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

Eitemau 5 a 6.

Cofnodion:

Eitemau 5-7

(14:05-14:10)

5.

Protocol drafft â Llywodraeth Cymru ar y gyllideb

Cofnodion:

5.1 Cytunodd y Pwyllgor ar ran 1 o’i brotocol â Llywodraeth Cymru ar y gyllideb.

(14:10-14:20)

6.

Benthyca darbodus a dulliau arloesol o ddefnyddio arian cyfalaf - cynghorydd arbenigol

Cofnodion:

6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar benodiad cynghorydd arbenigol ar gyfer ei ymchwiliad i Fenthyca darbodus a dulliau arloesol o ddefnyddio arian cyfalaf.

(14:20-14:40)

7.

Trafod y dystiolaeth - cyllideb atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2011-2012

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â’i Chyllideb Atodol ar gyfer 2011-2012.

Trawsgrifiad