Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd
Cyswllt: Gareth Price
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | |
---|---|---|---|
(9:00 - 9:05) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod. 1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Ann Jones; bu Jenny Rathbone yn dirprwyo ar ei rhan. |
||
(9:05 - 10:00) |
Cyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2012-2013 (Haf 2012) FIN(4) 11-12 – Papur
1 – Cyllideb Atodol ar gyfer 2012-2013 - Nodyn esboniadol FIN(4) 11-12 – Papur 2 - Cynnig Cyllideb Atodol 2012-2013 Jane Hutt, Y Gweinidog Cyllid
Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Croesawodd y
Cadeirydd Jane Hutt AC, y Gweinidog Cyllid; Jeff Andrews, Cynghorydd Polisi
Arbenigol; Margaret Davies, Pennaeth Polisi’r Gyllideb; a Matthew Denham Jones,
Pennaeth Rheoli a Chofnodi Cyllidebau. 2.2 Bu’r Aelodau’n
craffu ar waith y Gweinidog. Camau i’w cymryd: Cytunodd Llywodraeth Cymru i: ·
Gyhoeddi manylion y prosiectau sy’n cael cyllid gan
rownd 6 o’r gronfa buddsoddi i arbed, gan gynnwys faint a gafodd pob prosiect,
yr arbedion a ragwelir, manylion y proffil talu’n ôl, a manylion y gwerthusiad sydd
ar y gweill o’r gronfa buddsoddi i arbed; ·
Darparu gwybodaeth eglurhaol am y buddsoddiad o £1
miliwn yn yr un corff amgylcheddol, a grybwyllwyd gan y Pwyllgor Amgylchedd a
Chynaliadwyedd yn ei gyfarfod ar 27 Mehefin 2012; ·
Cadarnhau pryd y bydd y Pwyllgor yn cael adroddiad
diwedd y flwyddyn sy’n rhoi manylion ynghylch amrywiadau rhwng y gwariant
gwirioneddol a chyllideb atodol olaf y flwyddyn. |
||
Papurau i'w nodi FIN(4) 11-12 – Papur 3 – Ymgynghoriad ar bwerau benthyca newydd yr Alban FIN(4) 11-12 – Papur 4 – Gohebiaeth gan Gyfarwyddwyr Cyllid Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth yr Alban – Cyllid Datganoledig: Pwerau Benthyg a Dulliau Arloesol o Ddefnyddio Arian Cyfalaf FIN(4) 11-12 – Papur 5 – Ymgynghoriad ar Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Cyllideb Atodol ar gyfer 2011-2012 (Gwanwyn 2012) Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Mehefin 2012. Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Cytunodd y Pwyllgor i ateb yr ohebiaeth gan Drysorlys ei Mawrhydi ynghylch yr ymgynghoriad ar bwerau benthyca newydd i’r Alban, gan amlinellu’r hyn a ganfu’r ymchwiliad i Fenthyca Darbodus a Dulliau Arloesol o Ddefnyddio Arian Cyfalaf. 3.2 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch ei ymchwiliad i Gyllid Datganoledig: Pwerau Benthyg a Dulliau Arloesol o Ddefnyddio Arian Cyfalaf. 3.3 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch cyllideb atodol 2011-2012 (gwanwyn 2012), a fyddai’n llywio’i waith o graffu ar gyllideb atodol 2012-2013. 3.4 Cadarnhaodd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod blaenorol. |
|||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn: Eitem 5. Cofnodion: Eitemau 5 a 6. |
|||
(10:00 - 10:30) |
Cyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2012-2013 (Haf 2012) - Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 5.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth ar gyllideb atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2012-2013 (haf 2012). |
||
(10:30 - 11:00) |
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2013-2014 - Opsiynau ar gyfer penodi ymgynghorydd arbenigol Cofnodion: 6.1 Cytunodd y Pwyllgor i benodi cynghorydd technegol i gynorthwyo â’i waith o graffu ar gyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2013-2014. |
||
Trawsgrifiad |