2.1 Croesawodd y
Cadeirydd Alun Davies, y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd, Bwyd a
Rhaglenni Ewropeaidd, i’r cyfarfod.
2.2 Bu’r Pwyllgor
yn craffu ar waith y Dirprwy Weinidog.
Cytunodd
Llywodraeth Cymru i ddarparu:
·
Manylion
am yr hyfforddiant a gafodd staff Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru ar roi cyngor
i noddwyr prosiectau ynghylch y broses gaffael.
·
Nodyn
i’r Pwyllgor yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd yn nhrafodaethau
Llywodraeth Cymru â’r Comisiwn Ewropeaidd ynghylch mynd i’r afael â materion
cyfreithiol a thechnegol sy’n berthnasol i ffynhonnell gyllido JESSICA, sef y
rhaglen Cyd-gymorth Ewropeaidd ar gyfer Buddsoddi Cynaliadwy mewn Ardaloedd
Dinesig.
·
Rhagor
o fanylion am y trafodaethau sydd i ddod gyda’r Pwyllgor Monitro Rhaglenni ar
yr effaith y gallai’r gyfradd gyfnewid ei chael ar brosiectau ac ar sut y
gellir rheoli risgiau posibl.