Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Tom Jackson 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09:10-09:15)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau ac aelodau’r cyhoedd i’r cyfarfod.   

(09:15-9:55)

2.

Effeithiolrwydd Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru - ACCA Cymru a Sefydliad y Cyfrifwyr Siartredig

FIN(4)-05-12 Papur 1

 

Ben Cottam, Pennaeth ACCA Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd Ben Cottam, Pennaeth ACCA Cymru.

 

2.2 Holodd y Pwyllgor y tyst.

 

Cam i’w gymryd:

 

Cytunodd ACCA Cymru i ddarparu:

 

·         Rhagor o wybodaeth am sut y mae’r modd y rhoddir cronfeydd strwythurol ar waith yng Nghymru yn cymharu â’r hyn a wneir yn rhanbarthau eraill y DU.

(9:55-10:35)

3.

Effeithiolrwydd Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru - Cynghrair Mentrau Cymdeithasol Cymru

FIN(4)-05-12 Papur 2 – Cynghrair Mentrau Cymdeithasol Cymru

 

John Bennett, Prif Weithredwr, Cynghrair Mentrau Cymdeithasol Cymru

Linda Davies, Prif Weithredwr, Too Good To Waste

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Croesawodd y Cadeirydd John Bennett, Prif Weithredwr Cynghrair Mentrau Cymdeithasol Cymru, a Linda Davies, Prif Weithredwr Too Good To Waste.

 

3.2 Holodd y Pwyllgor y tystion.

 

Cam i’w gymryd:

 

Cytunodd Cynghrair Mentrau Cymdeithasol Cymru i ddarparu:

 

·         Adroddiad ar fodel yr enillion cymdeithasol a geir o fuddsoddi, a ddefnyddir gan fentrau cymdeithasol.

4.

Papurau i'w nodi

FIN(4) 05-12 – Papur 3 – Ymateb gan y Gweinidog Cyllid i adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar Graffu ar gynnig y Gyllideb Atodol ar gyfer 2011–2012 (Gwanwyn 2012)

 

FIN(4) 04-12 – Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Cadarnhaodd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod diwethaf, a nododd yr ohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid.    

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

Eitemau 6-8

Cofnodion:

Eitemau 6 i 8.

(10:35-10:50)

6.

Trafodaeth ynghylch y dystiolaeth - Effeithiolrwydd Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru

Cofnodion:

6.1. Bu’r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth ar gyfer ei ymchwiliad i Effeithiolrwydd Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru.

(10:50 - 11:00)

7.

Ymchwiliadau posibl y Pwyllgor yn y dyfodol

Cofnodion:

7.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod ei weithgareddau yn y dyfodol.

(11:00-12:00)

8.

Cyllid Datganoledig: Pwerau Benthyg a Chyfalaf - Cynghorydd Arbenigol

Cofnodion:

8.1. Bu’r Pwyllgor yn trafod â’i gynghorydd arbenigol ymchwiliad y Pwyllgor i Gyllid Datganoledig: Pwerau Benthyg a Chyfalaf. 

Trawsgrifiad