Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Naomi Stocks
| Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
|---|---|---|
(09:25-09:30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod. |
|
(09.30-10.30) |
Effeithiolrwydd Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru - Addysg Uwch Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Athro Richard Davies, Addysg Uwch Cymru, a Berwyn Davies, Pennaeth Addysg Uwch Cymru Brwsel. Camau i’w cymryd: Cytunodd Addysg Uwch Cymru i ddarparu nodyn i egluro a oedd angen cynnal gwerthusiadau allanol, a sicrhau disgyblaeth ariannol ehangach, yng Nghymru yn unig, neu yn ehangach ledled Ewrop. |
|
(10.30-11.30) |
Effeithiolrwydd Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru - Llywodraeth Cymru FIN(4)-04-12:
Papur 2 Alun Davies - Y
Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd, Bwyd a Rhaglenni Ewropeaidd Damian O'Brien - Cyfarwyddwr, WEFO Peter Ryland - Dirprwy Gyfarwyddwr, Perfformiad Rhaglenni a Chyllid, WEFO Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Croesawodd y Cadeirydd Alun Davies, y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd, Bwyd a Rhaglenni Ewropeaidd, Damian O’Brien, Cyfarwyddwr WEFO, a Peter Ryland, Dirprwy Gyfarwyddwr, Perfformiad Rhaglenni a Chyllid, WEFO Camau i’w cymryd: Cytunodd Llywodraeth Cymru i ddarparu nodiadau yn · Cymharu effeithiolrwydd y cronfeydd strwythurol yng Nghymru â’r rheini yn rhanbarthau 15 gwlad o blith gwledydd yr UE, yn enwedig o ran twf a swyddi. · Cymharu effeithiolrwydd y cronfeydd strwythurol yng Nghymru â’r rheini yn rhanbarthau eraill y DU, yn enwedig o ran twf a swyddi. · Nodi’r ystyriaeth y mae WEFO yn ei rhoi i gynaliadwyedd prosiectau yn y dyfodol yn ystod y broses ymgeisio. · Nodi a oes llai o gyllid ar gael yn awr i golegau addysg bellach nag a oedd o dan gyllid Amcan 2 gynt y Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd. · Nodi nifer y prosiectau a gaiff eu cyllido drwy JESSICA y mae awdurdodau lleol naill ai yn eu harwain neu’n bartneriaid ynddynt.
|
|
|
Papurau i'w nodi FIN(4)-Papur 3 – Papurau i’w nodi - Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ Cofnodion y
cyfarfod blaenorol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Cadarnhaodd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod blaenorol, a nododd yr ohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid. |
||
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Cofnodion: Eitemau 6-8 |
||
(11:30-11:40) |
Ymgynghoriad Trysorlys ei Mawrhydi â defnyddwyr ynghylch gwariant cyhoeddus - Dadansoddiad Ystadegol o Wariant Cyhoeddus (PESA) Cofnodion: 5.1 Trafododd y Pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus Trysorlys Ei Mawrhydi ynghylch y Dadansoddiad Ystadegol o Wariant Cyhoeddus, a phenderfynodd ymateb i’r ymgynghoriad. |
|
(11:40-11:55) |
Trafod y dystiolaeth - Effeithiolrwydd Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru Cofnodion: 7.1 Gohiriodd y Pwyllgor ei drafodaeth ar y dystiolaeth a gafodd ar gyfer ei ymchwiliad i effeithiolrwydd cronfeydd strwythurol yng Nghymru. |
|
(11:55-12:05) |
Ymchwiliadau posibl y Pwyllgor yn y dyfodol Cofnodion: 8.1 Gohiriodd y Pwyllgor y drafodaeth ar ymchwiliadau posibl yn y dyfodol ar gyfer cyfarfod arall. |
|
|
Trawsgrifiad |
PDF 51 KB