Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Naomi Stocks 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09:15-09:20)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod.

 

1.2        Datganodd y Cadeirydd fuddiant fel cyn-Weinidog a oedd yn gyfrifol am roi JESSICA ar waith.

 

1.3        Datganodd Ieuan Wyn Jones fuddiant fel cyn-Weinidog a oedd yn gyfrifol am roi Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd ar waith.

(9:20 - 10:15)

2.

Effeithiolrwydd y cronfeydd strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru

 

FIN(4) 01-12 – Papur 1

 

Matthew Brown, Rheolwr y Gronfa Fuddsoddi Gymunedol, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru

Phil Fiander, Cyfarwyddwr Rhaglenni, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru

Richard Morgan, Cyfarwyddwr Cyllid, Valleys Kids

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Estynnodd y Pwyllgor groeso i Matthew Brown, Rheolwr y Gronfa Fuddsoddi Gymunedol, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru; Phil Fiander, Cyfarwyddwr Rhaglenni, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru; a Richard Morgan, Cyfarwyddwr Cyllid, Valleys Kids.

 

2.2 Holodd y Pwyllgor y tystion.

 

Cam i’w gymryd

 

Cytunodd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru i ddarparu:

 

·         Rhagor o fanylion am yr amserlen ar gyfer sefydlu’r Gronfa Fuddsoddi Cymunedol.

 

 

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau a ganlyn:

Cofnodion:

Eitemau 4 a 5.

(10:15 - 10:45)

4.

Galwad am dystiolaeth ar gyfer yr ymchwiliad i gyllid datganoledig

Cofnodion:

4.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod yr ymchwiliad sydd ganddo ar y gweill i gyllid datganoledig.

(10:45 - 11:00)

5.

Ystyried blaenraglen waith gwanwyn 2012

Cofnodion:

5.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod ei raglan waith ar gyfer tymor y gwanwyn 2012.

6.

Papurau i'w nodi

Nodyn ynglŷn ag ymweliad rapporteur â chaffi Park View

Cofnodion y cyfarfod blaenorol ar 16 Tachwedd 2011

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y nodyn am yr ymweliad rapporteur â Park View Café.

 

6.2 Cadarnhaodd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Tachwedd 2011.

Trawsgrifiad