Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Tom Jackson
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Datganodd Peter Black fuddiant o dan Eitem 6 fel Aelod o Gomisiwn y Cynulliad. |
||
(9:30 - 10:20) |
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2012-2013 - Craffu ar waith y Gweinidog Cyllid FIN-05-11 – Papur 1 Atodiad A, Atodiad B, Atodiad C Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Croesawodd y Pwyllgor Jane Hutt AC, y Gweinidog Cyllid; Andrew Jeffries, Pennaeth Cyllidebu Strategol – Cynllunio Strategol, Cyllid a Pherfformiad; Jeff Andrews, Cynghorydd Polisi Arbenigol; a Michael Hearty, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Cynllunio Strategol, Cyllid a Pherfformiad. 2.2 Craffodd y Pwyllgor ar waith y Gweinidog. Camau i’w cymryd: Cytunodd y Gweinidog Cyllid i: · Egluro’r dyraniadau ychwanegol a wnaed i gefnogi blaenoriaethau strategol y Llywodraeth; · Darparu ffigurau ar nifer y bobl yng Nghymru sy’n talu’r dreth gyngor lawn a’r canran sy’n cael gostyngiad mewn budd-daliadau, gan gynnwys cyfraddau casglu’r dreth gyngor. · Darparu rhagor o fanylion ynghylch pa raglenni cyfalaf a ddefnyddir i gyflawni’r cynllun seilwaith cenedlaethol dros 10 mlynedd a phwy fydd yn gyfrifol am ymdrin â’r cronfeydd hynny. |
|
(10:20 - 11:10) |
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2012-2013 - tystiolaeth gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru FIN(4)-05-11 Papur 2 Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2012-2013 - tystiolaeth gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru Michelle Matheron, Uwch Swyddog Polisi, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru Phil Fiander, Cyfarwyddwr Rhaglenni, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru Joy Kent, Cyfarwyddwr, Cymorth Cymru Catriona
Williams, Prif Weithredwr,
Plant yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Croesawodd y Pwyllgor Phil Fiander, Cyfarwyddwr Rhaglenni, CGGC; Michelle Matheron, Uwch Swyddog Polisi, CGGC; Joy Kent, Cyfarwyddwr, Cymorth Cymru; a Catriona Williams, Prif Weithredwr, Plant yng Nghymru. 3.2 Holodd y Pwyllgor y tystion. Camau i’w cymryd: Cytunodd CGGC i ddarparu: ·
Manylion y cyllid sydd ar
gael ar
gyfer sefydliadau’r trydydd sector, ac amlinelliad o’r effaith y mae’n
ei gael ar
allu sefydliadau penodol y trydydd sector i symud a chael gafael
ar adnoddau ychwanegol. Byddai hyn yn cynnwys
ffigurau ar gyfrannau cyllid y sector gwirfoddol a ddaw o grantiau, contractau sy’n cael eu
caffael ar sail cystadleuaeth, ac ati. ·
Gwybodaeth o’r ‘arolwg dirwasgiad’
diweddaraf gan y CGGC ar y cynnydd yn
y galw am wasanaethau’r
sector gwirfoddol. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau a ganlyn: Eitem 5 Eitem 6 Eitem 7 |
||
(11:10-11:15) |
Aelodau i ystyried y dystiolaeth Cofnodion: 5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a gafwyd ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2012-2013. |
|
(11:15-11:30) |
Adroddiad drafft ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Cynulliad 2012-2013 Cofnodion: 6.1 Ni ddaeth Peter Black AC i’r rhan hon o’r cyfarfod, gan ei fod yn Gomisiynydd Cynulliad. 6.2 Gwnaeth yr Aelodau sylwadau ar adroddiad drafft y Pwyllgor ar y gwaith craffu ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Cynulliad 2012-2013 a’i gymeradwyo. |
|
(11:30-11:40) |
Ymchwiliad posibl i Gyllid Datganoli Cofnodion: 7.1 Gwnaeth y Pwyllgor sylwadau am gwmpas ymchwiliad ar gyllid datganoli a Chomisiwn y DU a’i gymeradwyo. |
|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod. |