Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Tom Jackson
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon |
||
(9:15-10:00) |
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2012-2013 - Craffu ar waith y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau Carl Sargeant, y Gweinidog
Llywodraeth Leol a Chymunedau Cofnodion: 2.1 Croesawodd y Cadeirydd Carl Sargeant, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, a Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr, Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, i’r cyfarfod. 2.2 Craffodd y Pwyllgor ar waith y Gweinidog. Camau i’w cymryd: Cytunodd y Gweinidog i ddarparu: · Cynlluniau gwaith a fydd yn cael eu trafod gan y Grŵp Arweinyddiaeth Llywodraeth Leol yn ei gyfarfod nesaf. · Rhestr o’r awdurdodau lleol llwyddiannus sydd wedi defnyddio cyllid buddsoddi-i-arbed a manylion astudiaethau achos llwyddiannus. |
|
(10:00-10:30) |
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2012-13 - Tystiolaeth gan Gonffederasiwn GIG Cymru FIN(4)-06-11 – Papur 1 Helen Birthwhistle, Cyfarwyddwr Conffederasiwn GIG Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Croesawodd y Pwyllgor Helen Birthwhistle, Cyfarwyddwr Conffederasiwn GIG Cymru, i’r cyfarfod. 3.2 Holodd y Pwyllgor y tystion. Cam i’w gymryd: Cytunodd Conffederasiwn GIG Cymru i ddarparu: · Nodyn ar yr arbedion effeithlonrwydd y mae’r GIG yn eu gwneud a sut y gellir eu cynnal yn y tymor hir. |
|
(10:30-11:15) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Eitem 5 Eitem 6 Eitem 7 Eitem 8 |
|
(10:30-10:45) |
Aelodau yn ystyried y dystiolaeth Cofnodion: 5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2012-2013. |
|
(10:45-11:00) |
Ymchwiliad i effeithiolrwydd Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru Cofnodion: 6.1 Trafododd y Pwyllgor ei alwad am dystiolaeth ar gyfer yr ymchwiliad i Effeithiolrwydd y Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd a’i gymeradwyo. |
|
(11:00-11:15) |
Adroddiad drafft ar amcangyfrif drafft Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Cofnodion: 7.1 Cytunodd y Pwyllgor ar ei adroddiad drafft ar amcangyfrifon drafft Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, a gyhoeddir yn fuan. |
|
Papurau i'w nodi FIN(4)-05-11 (Minutes) Work Programme Dogfennau ategol:
Cofnodion: 8.1 Cadarnhaodd y Pwyllgor Gofnodion ei gyfarfod ar 12 Hydref a nododd y rhaglen waith. |
||
Trawsgrifiad View the meeting transcript. |