Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Tom Jackson 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09:30 - 09:35)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Ieuan Wyn Jones a Julie Morgan.

(09:35 - 09:40)

2.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau a ganlyn:

(09:40 -10:10)

3.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2012-2013: Adolygu'r broses o graffu ar y Gyllideb

FIN(4)-09-11 (P1)

Cofnodion:

3.1 Adolygodd y Pwyllgor ei broses o graffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2012-2013.

(10:10-10:40)

4.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2012-2013: Datblygu protocol ysgrifenedig

FIN(4)-09-11 (p2)

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor y cynnig ar gyfer datblygu protocol ysgrifenedig gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau tryloywder cyllidebau drafft yn y dyfodol.

(10:40-11:10)

5.

Effeithiolrwydd Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru

FIN(4)-09-11 (P3)

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor ffyrdd o ymdrin â’i ymchwiliad i effeithiolrwydd Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru.

(11:10-11:30)

6.

Ymdrin ag ymgynghoriadau ar Bapurau Gwyn a Biliau Drafft

FIN(4)-09-11 (p4)

FIN(4)-09-11 (p5)

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor ffyrdd o ymdrin ag ymgynghoriadau ar Bapurau Gwyn a Biliau Drafft.

Trawsgrifiad