Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Tom Jackson
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(15:00- 15:05) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon |
|
(15:05-16:00) |
Cynigion cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2012-13 Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Croesawodd y
Pwyllgor Jane Hutt AC, y Gweinidog Cyllid; Andrew Jeffreys, Pennaeth Cyllido
Strategol – Cynllunio Strategol, Cyllid a Pherfformiad; Jeff Andrews,
Cynghorydd Polisi Arbenigol; a Jo Salway, Dirprwy Gyfarwyddwr Dros Dro Cyllido
Strategol. 2.2
Craffodd y Pwyllgor ar waith y Gweinidog. Camau i’w cymryd: Cytunodd y Gweinidog
Cyllid i ddarparu: ·
Nodyn
sy’n egluro’r effaith y gallai rheoliadau’r Trysorlys ei chael ar floc Cymru a
sut y mae Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo llywodraeth leol
o ran ei phwerau benthyca er mwyn rhoi hwb i fuddsoddiadau cyfalaf. ·
Nodyn ar
y broses ar gyfer cynnal asesiadau o’r effaith ar gydraddoldeb yng nghylch
cyllideb 2012-13. 2.3 Cytunodd y
Pwyllgor i ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Parhaol i ofyn am wybodaeth ychwanegol
am y cynnydd mewn costau staff yn y prif grŵp gwariant gwasanaethau canolog a gweinyddu, ynghyd ag eglurhad o ba
wasanaethau sydd o dan sylw a’r rhesymau dros y cynnydd. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau a ganlyn: Cofnodion: Eitem 4 a chyfarfod y Pwyllgor ar 2 Tachwedd. |
||
(16:00-16:30) |
Aelodau'n ystyried y dystiolaeth Cofnodion: 4.1 Bu’r Aelodau’n trafod y dystiolaeth a gafwyd ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2012-2013. |
|
Papurau i'w nodi FIN(4)-06-11 Cofnodion y cyfarfod blaenorol ar 20 Hydref 2011 Blaenraglen waith Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Nododd y Pwyllgor y rhaglen waith ar gyfer tymor yr hydref a chadarnhaodd gofnodion y cyfarfod ar 20 Hydref 2011. |
||
Trawsgrifiad |