Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Tom Jackson 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad ac Ymddiheuriadau

Cofnodion:

1.1 Croesawaodd y Cadeirydd aelodau’r pwyllgor ac aelodau’r cyhoedd i’r cyfarfod.

2.

Papur i'w nodi

Caiff y Pwyllgor ei wahodd i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r eitemau busnes terfynol yn unol ô Rheol Sefydlog 17.42(vi):

 

Caiff Pwyllgor benderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod neu unrhyw ran o gyfarfod:

 

(vi) lle mae’r Pwyllgor yn cyd-drafod cynnwys, casgliadau neu argymhelliad adroddiad y mae’n bwriadu ei gyhoeddi; neu’n ymbaratoi i gael tystiolaeth gan unrhyw berson.

Cofnodion:

2.1 Penderfynodd y pwyllgor wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod yn unol â Rheol Sefydlog 17.42(vi).

 

3.

Craffu ar gynnig y Gyllideb Atodol 2011 -12 (Haf 2011) – Ystyried adroddiad drafft y Pwyllgor

FIN(4) 02-11(p1)

Cofnodion:

3.1 Cytunodd y pwyllgor ar ei adroddiad drafft yn craffu ar gynnig Llywodraeth Cymru ynghylch cyllideb atodol 2011-12, a fyddai’n cael ei gyhoeddi cyn y ddadl yn y cyfarfod llawn ar 12 Gorffennaf.

 

4.

Cylch gwaith y Pwyllgor Cyllid a gweithgaredd y Pwyllgor ar gyfer y dyfodol

FIN(4) 02-11(p2)

Cofnodion:

4.1 Trafododd y pwyllgor ei gylch gwaith a’i raglen waith ar gyfer tymor yr hydref 2011 a gwaith arfaethedig y pwyllgor

Trawsgrifiad