Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd

Cyswllt: Bethan Davies 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(08:30-09:00)

1.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015-16: Adroddiad rhag-gyllidebol gan y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA)

FIN(4)-16-14 Papur 1

 

Don Peebles - Pennaeth (CIPFA) yr Alban a Chynghorydd Arbenigol i'r Pwyllgor

 

Cofnodion:

1.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio gan Don Peebles, Cynghorwr Arbenigol.

 

Trawsgrifiad

(09:00)

2.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r Pwyllgor.

 

2.2 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

(09:00 - 09:05)

3.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Nodwyd y papurau.

 

3.1

Cyllideb Atodol 2014-2015: Ymateb Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

(09:05-10:15)

4.

Cyllideb ddrafft Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2015-16

FIN(4)-16-14 Papur 2
FIN(4)-16-14 Papur 3

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Y Fonesig Rosemary Butler AC -  Llywydd a Chadeirydd y Comisiwn

Claire Clancy - Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad

Nicola Callow – Cyfarwyddwr Cyllid

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Roedd Peter Black AC yn absennol ar gyfer yr eitem hon ac eitem 8 gan ei fod yn aelod o Gomisiwn y Cynulliad.

 

4.2 Bu’r Aelodau yn craffu ar gyllideb ddrafft Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2015-16 gyda'r Fonesig Rosemary Butler AC, y Llywydd a Chadeirydd y Comisiwn, Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad a Nicola Callow, Pennaeth Cyllid.

 

4.3 Cytunodd y Llywydd i godi'r mater ynghylch tywyswyr yn casglu nodiadau Aelodau o'r Siambr i helpu gyda Chofnod y Trafodion yn y cyfarfod nesaf. Hefyd, ymrwymodd i ymchwilio i'r posibiliadau o ran opsiynau teithio amgen ar gyfer ymweliadau addysgol gan ysgolion.

 

4.4 Cytunodd Claire Clancy i edrych ar y materion hawlfraint sy'n ymwneud â'r adroddiad Ymddiriedolaeth Garbon a sicrhau ei fod ar gael i'r Aelodau os yn bosibl ac i ddarparu gwybodaeth i'r Pwyllgor ynghylch pwy sy'n berchen Tŷ Hywel.

 

(10:30-12:30)

5.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015-16: Sesiwn dystiolaeth 1

FIN(4)-16-14 Papur 4

 

Jane Hutt AC - y Gweinidog Cyllid

Jo Salway - Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllidebu Strategol, Llywodraeth Cymru

Matt Denham- Pennaeth Rheoli a Chofnodi Cyllidebau, Llywodraeth Cymru

Jeff Andrews – Cynghorydd Polisi Arbenigol, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Bu'r Pwyllgor yn craffu ar waith y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015-16.

 

5.2 Nododd y Cadeirydd y byddai'n gofyn i'r pwyllgor perthnasol i archwilio gyda'r Gweinidog portffolio os bydd y toriadau i'r rhaglen Cefnogi Pobl yn cael eu cyflwyno yn gyfartal ar draws Cymru, neu a fydd rhai ardaloedd cael toriadau mwy.

 

5.3 Cytunodd y Gweinidog i:

 

·         ddarparu nodyn i'r Pwyllgor yn egluro'r sefyllfa o ran ardrethi annomestig ar yr amod nad yw'n tanseilio trafodaethau gyda Llywodraeth y DU;

 

·         rhannu â'r Pwyllgor rhywfaint o'r cyngor cynnar y mae'r Llywodraeth wedi ei gael ar y broses o ddatganoli treth dir y dreth stamp;

 

·         cadarnhau'r trefniadau ar gyfer dyrannu arian i Awdurdodau Lleol yn benodol ar gyfer y gwasanaethau cymdeithasol;

 

·         darparu ragor o wybodaeth i'r Pwyllgor am y posibilrwydd o gael porth sgiliau i oedolion mewn perthynas â gwasanaeth Gyrfa Cymru;

 

·         gwirio cyhoeddi gwerthusiad ar y Grant Amddifadedd Disgyblion a rhoi manylion i'r Pwyllgor; a

 

·         rhoi manylion i'r Pwyllgor am gyllid buddsoddi-i-arbed.

 

(12:30)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

Eitemau 7, 8 a 9

 

Cofnodion:

6.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(12:30-13:00)

7.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015-16: Trafod y dystiolaeth a gafwyd

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd.

 

7.1

Ymatebion i'r Ymgynghoriad - Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015-16

(13:00 - 13:30)

8.

Cyllideb Ddrafft Comisiwn y Cynulliad 2015-16: Trafod y dystiolaeth a gafwyd

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a nodi y bydd adroddiad drafft yn cael ei baratoi i'w drafod yng nghyfarfod y Pwyllgor a drefnwyd ar gyfer 8 Hydref 2014.

 

(13:30-13:45)

9.

Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru): Gohebiaeth y Pwyllgor

Cofnodion:

9.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod yr ohebiaeth.