Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd

Cyswllt: Bethan Davies 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

(09:00)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor.  Ni chafwyd ymddiheuriadau.

 

(09:00-10:00)

2.

Craffu ar Gynnig Cyllideb Atodol 2014-15

FIN(4)-13-14 (papur 1)

FIN(4)-13-14 (papur 2)

FIN(4)-13-14 (papur 3)

Briff ymchwil

 

Jane Hutt AC – Y Gweinidog Cyllid

Jo Salway – Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllidebu Strategol, Llywodraeth Cymru

Matt Denham-Jones - Pennaeth Rheoli a Chofnodi Cyllidebau Ariannol, Llywodraeth Cymru

Jeff Andrews – Cynghorydd Polisi Arbenigol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Jane Hutt AC, y Gweinidog Cyllid; Jo Salway, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyllidebu Strategol, Llywodraeth Cymru; Matt Denham-Jones, Pennaeth Rheoli a Chofnodi Cyllidebau, Llywodraeth Cymru; a Jeff Andrews, Cynghorydd Polisi Arbenigol ar Gynnig Cyllideb Atodol 2014-2015.

 

2.2 Cytunodd y Gweinidog Cyllid i anfon y wybodaeth ychwanegol a ganlyn:

·       Sut y caiff yr £1.6 miliwn ychwanegol ar gyfer yr iaith Gymraeg ei ddyrannu

·       Enghreifftiau o brosiectau cyfalaf sydd wedi sicrhau arbedion o ran cost, a manylion y canlyniadau

·       Sut mae'r £6 miliwn ar gyfer trafodion ariannol wedi'i ddyrannu hyd yma

·       Rhagor o fanylion am yr addasiad i'r Gwariant a Reolir yn Flynyddol ar gyfer Addysg a Sgiliau sy'n ymwneud â benthyciadau myfyrwyr

 

2.3 Cytunodd y Gweinidog Cyllid i ystyried y ffordd orau i ledaenu manylion am brosiectau llai (o dan £15 miliwn) a sut y maent yn ymwneud â'r Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru.

 

(10:00-10:30)

3.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015-16

Briff ymchwil

 

Jane Hutt AC – Y Gweinidog Cyllid

Jo Salway – Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllidebu Strategol, Llywodraeth Cymru

Matt Denham-Jones - Pennaeth Rheoli a Chofnodi Cyllidebau Ariannol, Llywodraeth Cymru

Jeff Andrews – Cynghorydd Polisi Arbenigol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Trafododd yr Aelodau Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015-16 gyda Jane Hutt AC, y Gweinidog Cyllid; Jo Salway, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyllidebu Strategol, Llywodraeth Cymru; Matt Denham-Jones, Pennaeth Rheoli a Chofnodi Cyllidebau, Llywodraeth Cymru; a Jeff Andrews, Cynghorydd Polisi Arbenigol. 

 

3.2 Cytunodd y Gweinidog Cyllid i anfon nodyn ynghylch ble mae manylion cynlluniau menter preifat ledled y sector cyhoeddus yn cael eu cofnodi.

 

(10:30)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

Eitemau 5 ac 6

 

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(10:30-11:15)

5.

Craffu ar Gynnig Cyllideb Atodol 2014-15: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(11:15-12:00)

6.

Blaenraglen waith: Hydref 2014

FIN(4)-13-14 (papur 4)

 

 

Cofnodion:

6.1 Trafododd yr Aelodau y rhaglen waith ar gyfer tymor yr hydref a'i nodi.