Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd
Cyswllt: Bethan Davies
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod. |
||
(09:30) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod. 1.2
Cafwyd ymddiheuriadau gan Alun Ffred Jones. Nid oedd neb yn
dirprwyo ar ei ran. |
|
(09:30) |
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Nodwyd y
papurau. |
|
Ymchwiliad i Cyllid Cymru: Gwybodaeth ychwanegol gan y Ffederasiwn Busnesau Bach Dogfennau ategol: |
||
(09:35 - 11:00) |
Ymchwiliad i Cyllid Cymru: Sesiwn dystiolaeth 4 FIN(4)-06-14 (papur 1) FIN(4)-06-14 (papur 2) FIN(4)-06-14 (papur 3) Briff Ymchwil Cyllid Cymru Sian Lloyd Jones – Prif
Weithredwr Peter Wright – Cyfarwyddwr
Buddsoddi Strategol Ian Johnson – Cadeirydd Bwrdd
Cyllid Cymru ccc Chris Rowlands – Aelod o
Fwrdd Cyllid Cymru a Chadeirydd y Pwyllgor Buddsoddi Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Sian Lloyd Jones – Prif Weithredwr,
Peter Wright – Cyfarwyddwr Buddsoddi Strategol, Ian Johnson - Cadeirydd Bwrdd
Cyllid Cymru ccc, a Chris Rowlands – aelod o Fwrdd Cyllid Cymru a Chadeirydd y
Pwyllgor Buddsoddi o ran yr ymchwiliad i Cyllid Cymru. 3.2 Cytunodd Cyllid Cymru i anfon nodyn i roi gwybod beth yw ei symiau o
ddyled a ddilëwyd dros y tair blwyddyn ariannol ddiwethaf. |
|
(11:00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Eitemau 5 a 6 Cofnodion: 4.1 Cytunwyd ar y cynnig, ac fe’i hestynnwyd i’r eitem o fusnes gyntaf ar
gyfer y cyfarfod nesaf. |
|
(11:00-12:00) |
Ymchwiliad i Cyllid Cymru: Trafod y dystiolaeth a gafwyd Cofnodion: 5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd. |
|
(12:00-12:30) |
Blaenraglen waith FIN(4)-06-14(papur 4) Cofnodion: 6.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod ei flaenraglen waith. |