Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd
Cyswllt: Gareth Price
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
(09:00) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr
Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(09:00-10:30) |
Bil Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru): Cyfnod 2 - Trafod y gwelliannau Yn unol â Rheol
Sefydlog 26.21, bydd y Pwyllgor yn gwaredu gwelliannau i’r Bil yn y drefn a
ganlyn: Adrannau 1 – 3 Rhestr o
welliannau wedi’u didoli: 7 Tachwedd
2013 Grwpio
Gwelliannau: 7 Tachwedd 2013 Mark Drakeford
AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Sally Hughes,
Cyfreithiwr i Lywodraeth Cymru Mark Osland,
Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyllid, yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Yn unol â Rheol Sefydlog
26.21, aeth y Pwyllgor ati i drafod a gwaredu’r gwelliannau i’r Bil yn y drefn
a ganlyn: Adrannau 1 – 3 Adran 1: Ni chafodd gwelliannau eu
cyflwyno i’r adran hon, felly bernir ei bod wedi’i derbyn. Adran 2: Tynnwyd gwelliant
8 (Mark Drakeford) yn ôl. Gwelliant 3 (Paul
Davies)
Tynnwyd gwelliant
1 (Simon Thomas) yn ôl.
Tynnwyd gwelliant
10 (Simon Thomas) yn ôl. Derbyniwyd
gwelliant 9 (Mark Drakeford) yn unol â Rheol Sefydlog 17.34(i). Adran 3: Ni chafodd gwelliannau eu
cyflwyno i’r adran hon, felly bernir ei bod wedi’i derbyn. Adrannau newydd:
Tynnwyd gwelliant
5 (Paul Davies) yn ôl. Tynnwyd gwelliant
6 (Paul Davies) yn ôl.
2.2 Cyhoeddodd y Cadeirydd fod
y Pwyllgor wedi derbyn pob adran o’r Bil, a chan y gwaredwyd pob gwelliant,
bydd Cyfnod 3 yn dechrau ar 8 Tachwedd 2013.
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(10:30) |
Papurau i’w nodi Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Hydref 2013 Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Hydref 2013 Cofnodion y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Hydref 2013 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Nodwyd y papurau. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Bil Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru): Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (29 Hydref 2013) FIN(4)-19-13
(PTN1) Dogfennau ategol: |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Bil Addysg (Cymru): Llythyr gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau (22 Hydref 2013) FIN(4)-19-13
(PTN2) Dogfennau ategol: |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(10:30) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Eitemau 5 & 6 Cofnodion: 4.1 Derbyniwyd y cynnig. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(10:30-10:45) |
Ymchwiliad Cyllid Cymru: Trafod y Cylch Gorchwyl Drafft FIN(4)-19-13 (papur 1) Cofnodion: 5.1 Trafododd y Pwyllgor y
papur a chytuno arno. Awgrymodd hefyd y posibilrwydd o gael cynghorwr arbenigol
i gynorthwyo â’r ymchwiliad. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
(10:45-12:15) |
Trafod yr adroddiad drafft ar gynigion cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2014-15 FIN(4)-19-13 (papur 2) Cofnodion: 6.1 Gwnaeth y Pwyllgor ambell
fân newid a chytuno ar y fersiwn drafft terfynol, gan nodi y byddai’n cael ei
gyhoeddi ar 12 Tachwedd 2013. |