Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd
Cyswllt: Gareth Price
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod. |
||
(09:00) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd Simon Thomas AC i'w gyfarfod
cyntaf o'r Pwyllgor hwn. |
|
(09:00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Eitemau 3, 4, 5, a 8. Cofnodion: 4.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig. |
|
(09:00-09:20) |
Trafod yr adroddiad drafft ar gyllideb ddrafft Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2014-15 FIN(4)-16-13 Papur 1 Cofnodion: 3.1 Roedd Peter Black AC yn absennol ar gyfer yr eitem
hon gan ei fod yn aelod o Gomisiwn y Cynulliad. 3.2 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd
arno. |
|
(09:20-09:40) |
Trafod yr adroddiad drafft ar amcangyfrifon drafft Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar gyfer 2014-15 FIN(4)-16-13 Papur 2 Cofnodion: 4.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd
arno. |
|
(09:40 - 10:00) |
Ymchwiliad i Gyllido Addysg Uwch: ystyried tystion llafar Cofnodion: 5.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod y papur a chytunodd ar y
rhestr arfaethedig o dystion, gan ychwanegu'r Prif Gynghorwr Gwyddonol at y
rhestr. |
|
(10:00-11:00) |
Craffu ar gynigion cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2014-15 - Tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru Jane Hutt AC, y Gweinidog Cyllid, Cynulliad Cenedlaethol Cymru Jo Salway, Dirprwy Cyfarwyddwr, Cyllido Strategol Jeff Andrews, Ymgynghorydd Polisi Arbenigol Cofnodion: 6.1 Bu'r Pwyllgor yn craffu ar waith y Gweinidog Cyllid
yng nghyswllt cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2014-15. Camau gweithredu: Cytunodd y Gweinidog Cyllid i ysgrifennu at y Pwyllgor i
roi eglurhad o'r modd y gallai prosiect arfaethedig HS2 effeithio ar symiau
canlyniadol Barnett, os bydd y prosiect yn mynd yn ei flaen. Cytunodd y Gweinidog Cyllid i egluro lefel yr incwm a
ddisgwylir o ardrethi annomestig. Cytunodd y Gweinidog Cyllid i rannu rhagor o wybodaeth
ynghylch y terfyn uchaf y mae'r Llywodraeth yn ei bennu o ran y ffioedd y gall
awdurdodau lleol eu codi. Cytunodd y Gweinidog Cyllid i ddarparu ffurflenni monitro
ynghylch gwariant cyfalaf ar gyfer ysgolion. Cytunodd y Gweinidog Cyllid i anfon nodyn ynghylch y
gyllideb a ddyrennir i ddatblygu'r Asiantaeth Fabwysiadu Genedlaethol yn ystod
y flwyddyn ariannol hon. Cytunodd y Gweinidog Cyllid i anfon nodyn a rhif yng
nghyswllt pa arbedion y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud o fewn ei
gweinyddiaeth ganolog. Cytunodd y Gweinidog Cyllid i anfon nodyn ynghylch y modd
arbennig o ymdrin â gwariant ataliol. Cytunodd y Gweinidog Cyllid i anfon eglurhad ynghylch pam
y bu toriad yn y gyllideb ar gyfer y Gymraeg heb yr asesiad o effaith gwariant
Llywodraeth Cymru yr addawodd y Prif Weinidog ym mis Chwefror 2013 y byddai'n
cael ei gynnal. |
|
(11:00) |
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 7.1 Nodwyd y papurau. |
|
(11:00-11:15) |
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2014-2015: Adolygiad o'r dystiolaeth a gafwyd Cofnodion: 8.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a gafwyd gan y
Gweinidog Cyllid heddiw a chytunodd i ysgrifennu ati i ofyn am eglurhad
ynghylch nifer o faterion a gododd yn ystod y sesiwn. |