Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd

Cyswllt: Gareth Price 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09:30-09:35)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Ieuan Wyn Jones. Nid oedd unrhyw ddirprwyon.

 

2.

Papurau i'w nodi

FIN(4)-08-13 Papur 1 – Llythyr gan Gartrefi Cymunedol..

FIN(4)-08-13 Papur 2 – Ymateb gan Llywodraeth Cymru – Buddsoddi i arbed

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Cartrefi Cymunedol Cymru ac ymateb Llywodraeth Cymru i Buddsoddi i Arbed.

 

2.2 Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Ebrill.

 

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod

Ar gyfer eitemau 4 - 7

Cofnodion:

3.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.

 

(9:35-10:00)

4.

Ardaloedd Menter - Ystyried y cylch gorchwyl drafft

Cofnodion:

4.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cylch gorchwyl drafft a chytunodd i ymweld ag Ardal Fenter Sain Tathan ar 22 Mai.

 

4.2 Nododd y Pwyllgor y byddai ganddo hefyd ddiddordeb mewn ymweld ag Ardaloedd Menter eraill yng Nghymru yn y dyfodol agos.

 

4.3 Gofynnodd y Pwyllgor am bapur astudiaeth cymharol gan y Gwasanaeth Ymchwil ar yr Ardaloedd Menter sydd eisoes wedi’u sefydlu neu sydd wedi’u sefydlu’n ddiweddar.

 

4.4 Cytunodd y tîm clercio i ddarparu trawsgrifiad o’r sesiwn flaenorol ar Ardaloedd Menter a gynhaliodd y Pwyllgor Menter a Busnes ar 29 Tachwedd 2012.

 

(10:00-10:30)

5.

Gwariant Ataliol - Papur Opsiynau

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y papur opsiynau a chytunodd y byddai’n canolbwyntio ar wariant ataliol. Dyma’r ddau opsiwn dewisol:

 

·         Defnyddio gwariant ataliol yn ganolbwynt i’r gwaith o graffu ar y gyllideb ddrafft.

·         Edrych ar un o feysydd polisi penodol Llywodraeth Cymru ar ôl y gyllideb e.e. gwaith yn erbyn tlodi.

 

(10:30-10:45)

6.

Goblygiadau ariannol y Bil Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru)

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor bapur y Gwasanaeth Ymchwil ar oblygiadau ariannol y Bil Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru) a chytunodd bod yr agweddau ariannol a chyfrifyddiaeth sy’n berthnasol i’r Bil o ddiddordeb penodol.

 

6.2 Cytunodd Clerc y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i bennu pa Weinidog i’w wahodd i’r Pwyllgor i fynd i’r afael â’r materion ehangach hyn.

 

6.3 Gofynnodd y Pwyllgor i’r Gwasanaeth Ymchwil ddarparu dadansoddiad manwl o gostau blynyddol y Bil Addysg Bellach ac Uwch a sut y cânt eu cyfrifo; diffiniad o beth yw sefydliad nad yw’n gwneud elw; a phapur ar y gwahaniaethau a fabwysiadwyd rhwng Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon o ran sut mae Sefydliadau Addysg Bellach yn cael eu dosbarthu.

 

(10:45-11:30)

7.

Rheoli Asedau - (Grŵp Arwain y Gwasanaethau Cyhoeddus) Arddangos ei system E-Pims

Cofnodion:

7.1 Arddangosodd Grŵp Arwain y Gwasanaethau Cyhoeddus ei system E-Pims i’r Pwyllgor.

 

Trawsgrifiad