Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd
Cyswllt: Gareth Price
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(9:30 - 9:35) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1
Croesawodd
y Cadeirydd yr Aelodau ac aelodau’r cyhoedd i’r cyfarfod. |
|
(9:35 - 10:30) |
Cynigion cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2013-14 Jane Hutt AC, y
Gweinidog Cyllid Jo Salway, Pennaeth Cyllidebu Strategol Cofnodion: 2.1 Croesawodd y
Cadeirydd Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ; Jo Salway, Pennaeth Cyllidebu Strategol;
Andrew Jeffreys, Pennaeth Buddsoddi Cyfalaf Strategol; a Jeff Andrews,
Ymgynghorydd Polisi Arbenigol. 2.2 Craffodd yr Aelodau
ar waith y Gweinidog. Camau gweithredu: Cytunodd y
Gweinidog i ddarparu: ·
Ffigurau’n amlygu’r nifer isel o bobl sy’n hawlio
Budd-dal Treth Cyngor. ·
Rhagor o wybodaeth am y Rhaglen Gwasanaeth Effeithiol a’r
mesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod gwasanaethau
effeithiol yn cael eu darparu. |
|
Papurau i'w nodi FIN(4) 17-12 – Papur 1 – Ymateb Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru i’r ymgynghoriad ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru Cofnodion y cyfarfod blaenorol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Nododd y Pwyllgor ymateb Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru i gynigion
cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2013/14. 3.2 Nododd y
Pwyllgor gofnodion y cyfarfod blaenorol. |
||
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Eitemau 5 - 8. Cofnodion: Eitemau 4 i 8 ar
yr agenda hon a’r cyfarfod cyfan ddydd Llun 5 Tachwedd. |
||
(10:30 - 11:00) |
Ystyried yr adroddiad drafft ar amcangyfrif drafft Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Cofnodion: 5.1 Cytunodd y Pwyllgor ar ei adroddiad drafft ar amcangyfrif drafft Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, a fydd yn cael ei gyhoeddi yn fuan. |
|
(11:05 - 11:30) |
Ystyried y dystiolaeth ar gynigion cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2013-14 Cofnodion: 6.1 Ystyriodd y
Pwyllgor y dystiolaeth a gafodd ar gyllideb drafft Llywodraeth Cymru ar gyfer
2013/14. |
|
(11:30 - 12:00) |
Cynigion cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2013-14 - y prif themâu a materion sy'n dod i'r amlwg Cofnodion: 7.1 Ystyriodd y
Pwyllgor y prif themâu a’r materion sy’n dod i'r
amlwg o’r dystiolaeth a gafodd ar gyllideb drafft Llywodraeth Cymru ar
gyfer 2013/14. |
|
(12:00 - 12:15) |
Ystyried y rhaglen waith ddrafft - tymor yr hydref 2012 Cofnodion: 8.1 Trafododd y
Pwyllgor ei raglen waith ar gyfer gweddill tymor yr hydref 2012. |
|
Trawsgrifiad |