Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd

Cyswllt: Siân Phipps  Deputy Clerk: Kayleigh Driscoll

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Agorodd y Clerc y cyfarfod, a gofynnodd am enwebiadau i benodi Cadeirydd dros dro. Cafodd Alun Ffred Jones ei benodi’n Gadeirydd dros dro ar gyfer y cyfarfod hwn.

(9.45 - 10.45)

2.

Sesiwn craffu ariannol canol blwyddyn gyda'r Gweinidog Addysg a Sgiliau

Leighton Andrews AC, y Gweinidog Addysg a Sgiliau

 

Jeff Cuthbert AC, y Dirprwy Weinidog Sgiliau

 

Owen Evans, Cyfarwyddwr – Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes

 

Carla Lyne, Dirprwy Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cyllid a Chorfforaethol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd Leighton Andrews AC, y Gweinidog Addysg a Sgiliau; Jeff Cuthbert AC, y Dirprwy Weinidog Addysg a Sgiliau; Owen Evans, Cyfarwyddwr – Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes; a Carla Lyne, Dirprwy Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cyllid a Chorfforaethol, i’r cyfarfod. Bu’r Aelodau’n holi’r Gweinidog a’i swyddogion. Gohiriwyd y cyfarfod yn sgil problemau technegol, a chytunodd y Pwyllgor y byddai’r Cadeirydd yn ysgrifennu at y Gweinidog gyda’r cwestiynau nas gofynnwyd yn ystod y cyfarfod.

 

 

(10.45)

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

3.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.

(10.45 - 11.30)

4.

Papur cwmpasu ar Drafnidiaeth Gyhoeddus Integredig

Cofnodion:

4.1 Bu’r Aelodau’n trafod y papur cwmpasu ar yr ymchwiliad i drafnidiaeth gyhoeddus integredig yng Nghymru.

Trawsgrifiad