Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Cyswllt: Siân Phipps Deputy Clerk: Kayleigh Driscoll
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan David Rees AC. Roedd Gwyn Price AC yn dirprwyo ar ei ran. |
||
(09.30 - 10.30) |
Ymchwiliad i gysylltedd rhyngwladol drwy borthladdoedd a meysydd awyr Cymru - Sesiwn dystiolaeth Papur 1 Alec Don, Prif Weithredwr, Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau Papur 2 Matthew Kennerley, Cyfarwyddwr Porthladd, De Cymru – Cymdeithas Porthladdoedd Prydain Papur 3 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Croesawodd y Cadeirydd Alec Don a Mark Andrews o Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau, Matthew Kennerley o Gymdeithas Porthladdoedd Prydain a Ian Davies o Stena Line i’r cyfarfod. Bu’r Aelodau’n holi’r tystion. Cytunodd Matthew Kennerley i ddarparu copi o lyfryn am barciau ynni yn ne-orllewin Lloegr i Aelodau. |
|
(10.30 - 11.30) |
Sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog - y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth Papur 4 Edwina Hart AC, y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth James Price, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Yr Adran Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth (BETS) Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Croesawodd y Cadeirydd y Gweinidog a’i swyddogion i’r cyfarfod. Bu’r Aelodau’n holi’r Gweinidog. 3.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu nodyn am y canlynol: - Dehongliad y Llywodraeth o’r ffigurau cynnyrch mewnwladol crynswth diweddaraf, a chyd-destun ehangach y ffigurau sy’n ymwneud â chyfraddau diweithdra ac anweithgarwch economaidd. - Yr amodau sy’n effeithio ar yr arian cyfatebol ar gyfer gwahanol raglenni ariannu Llywodraeth Cymru a’r UE. - Y diffiniad o “werth am arian” a sut y cafodd ei asesu o fewn eich gwerthusiad o Gronfa Twf Economaidd Cymru a’i effaith ar yr economi – pan fydd ar gael. - Cytunodd y Gweinidog i rannu gyda’r Pwyllgor yr ymarfer sydd bron a chael ei gwblhau sef pennu’r llinellau sylfaen a’r targedau y bydd ei hadran yn cael eu mesur yn eu herbyn. Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn am ymateb ysgrifenedig i’r cwestiynau nas gofynnwyd yn ystod y sesiwn. |
|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod. |