Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd

Cyswllt: Siân Phipps  Deputy Clerk: Meriel Singleton

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Enwebwyd Alun Ffred Jones yn Gadeirydd dros dro.

 

1.2 Croesawodd y Cadeirydd bawb i gyfarfod y Pwyllgor. Cafwyd ymddiheuriadau gan Nick Ramsay. Nid oedd dirprwyon.

 

2.

Sesiwn ddilynol ar rôl mentrau cymdeithasol yn economi Cymru (13.30 - 14.30)

EBC(4)-04-12 : Papur 1

 

Lis Burnett, Cynghorydd Arbenigol i’r cyn-Bwyllgor Menter a Dysgu, a Phennaeth Canolfan Entrepreneuriaeth Gymdeithasol Prifysgol Morgannwg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd Lis Burnett, a fu’n gynghorydd arbenigol i’r cyn-Bwyllgor Menter a Dysgu ac sy’n Bennaeth ar Ganolfan Entrepreneuriaeth Gymdeithasol Prifysgol Morgannwg. Cafodd yr Aelodau y wybodaeth ddiweddaraf am yr adroddiad, a buont yn gofyn cwestiynau.

 

2.2 Cytunodd y Pwyllgor i wneud gwaith pellach ar fentrau cymdeithasol.

 

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn: (14.30)

Cofnodion:

3.1 Cynigodd y Cadeirydd gynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

 

3.2 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig, a symudodd i sesiwn breifat.

4.

Cynigion deddfwriaethol drafft ynghylch cronfeydd strwythurol yr UE ar gyfer 2014-2020 - ystyried adroddiad drafft y pwyllgor (14.30 - 15.00)

EBC(4)-04-12 : Papur 2

Cofnodion:

4.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod yr adroddiad. Bydd fersiwn diwygiedig yn cael ei ddosbarthu a’i gytuno y tu allan i’r Pwyllgor.

Trawsgrifiad