Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Siân Phipps  Deputy Clerk: Meriel Singleton

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan David Rees a Leanne Wood; nid oedd dirprwyon.

(9:00 - 9:30)

2.

Y wybodaeth ddiweddaraf am faterion Ewropeaidd

    Gregg Jones, Pennaeth Swyddfa’r UE – y Gwasanaeth Ymchwil

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Rhoddodd Gregg Jones, Pennaeth Swyddfa’r Undeb Ewropeaidd, y wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am faterion Ewropeaidd.

 

2.2 Cytunodd y Pwyllgor i ganolbwyntio ar Horizon 2020 a’r canllawiau ar gymorth gwladwriaethol ar gyfer rhwydweithiau band eang.

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

Cofnodion:

3.1 Gwnaeth y Cadeirydd gynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

 

3.2 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig, a chynhaliwyd gweddill y cyfarfod yn breifat.

 

4.

Y Bil Drafft ynghylch Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) - trafod y dull o ystyried y Bil drafft

Cofnodion:

4.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y dull y dylai ei fabwysiadu ar gyfer ystyried y Bil drafft.

 

Trawsgrifiad