Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd

Cyswllt: Polisi: Siân Phipps  Dirprwy Glerc: Ffion Emyr Bourton

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Nid oedd dim ymddiheuriadau.

(09.15-10.15)

2.

Y Bil Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru) - craffu ar waith y Gweinidog

Leighton Andrews AC, y Gweiniog Addysg a Sgiliau

Andrew Clark, Dirprwy Gyfarwyddwr, Addysg Bellach a Phrentisiaethau

Grace Martins, Uwch Gyfreithiwr

Neil Surman, Dirprwy Gyfarwyddwr, Yr Is-Adran Addysg Uwch

 

Cofnodion:

2.1 Oherwydd newidiadau i Gabinet Llywodraeth Cymru, ni allai’r Gweinidog ddod i’r sesiwn. Gan hynny, pasiwyd cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i fynd i sesiwn breifat tan 10.30 i drafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ynghylch y Bil Eiddo Deallusol.

(10.30-11.30)

3.

Ymchwiliad i Entrepreneuriaeth ymysg Pobl Ifanc - craffu ar waith y Gweinidog

Edwina Hart AC, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

 

Glynn Pegler, Hyrwyddwyr Entrepreneuriaeth Fusnes

 

James Taylor, Hyrwyddwyr Entrepreneuriaeth Fusnes

 

Sue Poole, Rheolwr Menter, Canolfan Menter Rhanbarthol AB/AU De Orllewin Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Croesawodd y Cadeirydd y Gweinidog a’r tystion eraill i’r cyfarfod. Atebodd y Gweinidog a’r tystion gwestiynau gan yr Aelodau.  

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1 Ni chynigwyd y cynnig oherwydd y newidiadau i’r agenda.