Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd

Cyswllt: Siân Phipps  Deputy Clerk: Kayleigh Driscoll

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Agorodd y Clerc y cyfarfod a gofynnodd am enwebiadau ar gyfer cadeirydd dros dro. Penodwyd Alun Ffred Jones yn gadeirydd dros dro tan gyrhaeddodd Nick Ramsay.

 

Croesawodd y cadeirydd dros dro bawb i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Julie James, Keith Davies a Dafydd Elis-Thomas. Nid oedd unrhyw ddirprwyon.

(09.20 - 09:25)

2.

Cynnig i sefydlu is-bwyllgor ar gyfer Rheoliadau Mangreoedd etc Di-fwg (Cymru) (Diwygio) 2012

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor y Cynnig.

(09:25 - 10:15)

3.

Ymchwiliad i Drafnidiaeth Gyhoeddus Integredig - Sesiwn Dystiolaeth

Canolfan Ymchwil Trafnidiaeth Cymru

 

Yr Athro Stuart Cole CBE, Athro Emeritws ym maes Trafnidiaeth, Canolfan Ymchwil Trafnidiaeth Cymru, Prifysgol Morgannwg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr Athro Stuart Cole i’r cyfarfod. Holodd yr Aelodau’r tyst.

(10:15 - 11:00)

4.

Ymchwiliad i Drafnidiaeth Gyhoeddus Integredig - Sesiwn Dystiolaeth

Cymdeithas Swyddogion Cydgysylltu Trafnidiaeth Cymru

 

Richard Cope, Rheolwr yr Uned Trafndiaeth i Deithwyr, Cyngor Sir Fynwy

 

Tracey Mcadam, Rheolwr yr Uned Trafnidiaeth Integredig, Cyngor Dinas Casnewydd

 

Hubert Mathias, Rheolwr Trafnidiaeth a Fflyd, Cyngor Sir Penfro

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Richard Cope a Tracey Mcadam. Cafwyd ymddiheuriadau gan Hubert Mathias. Holodd yr Aelodau y tystion i’r cyfarfod.

 

Cam i’w gymryd:

Cytunodd Cymdeithas Swyddogion Cydgysylltu Trafnidiaeth Cymru i ddarparu nodyn i’r Pwyllgor yn dweud sut mae’n credu y dylai Llywodraeth Cymru geisio dylanwadu ar reolau Cystadleuaeth y DU, yng nghyd-destun argymhellion Comisiwn y Gystadleuaeth ar wasanaethau bws lleol.

Trawsgrifiad