Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd

Cyswllt: Siân Phipps  Deputy Clerk: Kayleigh Driscoll

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(9.00 - 9.30)

1.

Sesiwn friffio anffurfiol ar y Gyllideb Ddrafft

Cofnodion:

1.1 Cafodd yr Aelodau sesiwn friffio anffurfiol ar gynigion cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2013-14.

2.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

2.1 2.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Keith Davies AC, yr oedd Gwyn Price AC yn dirprwyo ar ei ran. Cafwyd ymddiheuriadau hefyd gan Julie James AC, yr oedd Jenny Rathbone AC yn dirprwyo ar ei rhan.

(9.30 - 10.30)

3.

Cynigion cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2013-14: Sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog

Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg a Sgiliau

 

Jeff Cuthbert, y Dirprwy Weinidog Sgiliau

 

Carla Lyne, Dirprwy Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cyllid a Chorfforaethol

Owen Evans, Cyfarwyddwr Grŵp Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Croesawodd y Cadeirydd y Gweinidog a’i swyddogion i’r cyfarfod. Holodd yr Aelodau y tystion.

 

Camau i’w cymryd:

 

Cytunodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau a’r Dirprwy Weinidog Sgiliau i:

 

·         roi’r ffigurau diweddaraf ar nifer y bobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, a’u cymharu hefyd â’r ffigurau ar gyfer Rhanbarthau Lloegr;

 

·         darparu nodyn ar yr adnoddau a’r canlyniadau ar gyfer y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, gan gynnwys nifer y myfyrwyr sy’n astudio gyda’r coleg;

 

·         darparu nodyn ar ba gynlluniau peilot sy’n treialu’r model cymorth ar hyn o bryd lle mae ‘person a enwirar gael i blant y mae risg iddynt ddod yn bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, gan gynnwys plant a waharddwyd o’r ysgol;

 

·         darparu nodyn yn amlinellu pa raglenni cyflogaeth a sgiliau y bydd y gostyngiad o £3.3 miliwn yn y gyllideb cyflogaeth a sgiliau yn effeithio arnynt fwyaf;

 

·         darparu ffigurau ar ba gyfran o gyllideb Grantiau Dysgu’r Cynulliad a neilltuir i gymorth rhan amser o’i gymharu â chymorth llawn amser.

 

 

 

(10.30)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.

(10.30 - 11.00)

5.

Ystyried y dystiolaeth a'r adroddiad ar y gyllideb

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd ar gynigion cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2013-14.

 

Trawsgrifiad

View the meeting transcript.