Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd

Cyswllt: Gareth Williams  Deputy Clerk: Ruth Hatton

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1        Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor, yn ei gyfarfod blaenorol ar 27 Medi, wedi penderfynu cynnal y cyfarfod yn breifat, yn unol â Rheol Sefydlog 17.42(v).

 

1.2        Croesawodd y Cadeirydd aelodau’r Pwyllgor a’r tystion i’r cyfarfod.

 

1.3        Dywedodd y Cadeirydd bod ymddiheuriadau wedi dod i law gan Keith Davies. Croesawodd y Pwyllgor Jenny Rathbone i’r cyfarfod, a oedd yn dirprwyo ar ei ran yn unol â Rheol Sefydlog 17.48.

(9.30 - 10.30)

2.

Sesiwn friffio ar y Papur Gwyn ar Fil Addysg Bellach ac Uwch (Cymru)

Papur Gwyn: Bil Addysg Bellach ac Uwch (Cymru)

 

·         Neil Surman, Pennaeth yr Is-adran Addysg Uwch, Llywodraeth Cymru

·         Jane Ellis, Uwch Swyddog Llywodraethu Addysg Bellach, Llywodraeth Cymru

Cofnodion:

2.1     Cafodd y Pwyllgor friff technegol gan swyddogion Llywodraeth Cymru ar Bapur Gwyn Bil Addysg Bellach ac Uwch (Cymru).

(10.30 - 11.00)

3.

Ystyried y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Banc Buddsoddi Gwyrdd y DU

Cofnodion:

3.1     Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio.

 

3.2     Nododd y Cadeirydd bod yn rhaid i’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad erbyn 1 Tachwedd 2012.

(11.00 - 12.00)

4.

Ymchwiliad i brentisiaethau yng Nghymru: Trafodaeth ar yr adroddiad drafft

Cofnodion:

Cytunodd yr Aelodau ar yr adroddiad yn amodol ar nifer fach o ddiwygiadau.