Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Cyswllt: Siân Phipps Deputy Clerk: Kayleigh Driscoll
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(13.00 - 13.30) |
Sesiwn friffio anffurfiol a phreifat gan Swyddfa'r Comisiwn Ewropeaidd yng Nghymru Cofnodion: 1.1 Cyflwynodd
David Hughes ei hun i’r Aelodau fel Pennaeth newydd swyddfa’r Comisiwn
Ewropeaidd yng Nghaerdydd. |
|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 2.1 1.1
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r Pwyllgor. Cafwyd ymddiheuriadau gan Keith
Davies AC. Roedd Jenny Rathbone AC yn dirprwyo ar ei ran. |
||
(13.30 - 14.00) |
Sesiwn ddiweddaru gyda'r Gweinidog Cyllid ynglŷn â pholisi caffael yr Undeb Ewropeaidd Cofnodion: 3.1 Croesawodd y
Cadeirydd y Gweinidog a’i swyddogion. Rhoddodd y Gweinidog y wybodaeth
ddiweddaraf am gaffael yr UE ac atebodd gwestiynau gan yr Aelodau. Cam i’w gymryd: Wrth sôn am
bolisi caffael yr UE, cynigiodd y Gweinidog Cyllid i anfon y dystiolaeth
ddiweddaraf am gyrchu lleol at y Pwyllgor. |
|
(14.00 - 15.00) |
Sesiwn ddiweddaru gyda'r Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd ynglŷn â'r rhaglen Horizon 2020 a Chronfeydd Strwythurol yr UE Cofnodion: 4.1 Croesawodd y
Cadeirydd y Gweinidog a’i swyddogion. Rhoddodd y Gweinidog y wybodaeth
ddiweddaraf am Horizon 2020 a Chronfeydd Strwythurol yr UE ac atebodd gwestiynau
gan yr Aelodau. Cam i’w gymryd: Cynigiodd y Dirprwy
Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd i ysgrifennu
at y Pwyllgor gydag amserlen o ddigwyddiadau a thrafodaethau sy’n debygol o
ddigwydd dros y flwyddyn nesaf. Hefyd, cytunodd y Dirprwy Weinidog i ddarparu
copi cynnar o adroddiad Dr Guildford pan yn bosibl. |