Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd

Cyswllt: Llinos Dafydd 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Elin Jones a Lynne Neagle. Nid oedd dim dirprwyon.

(13.30 - 15.00)

2.

Ymchwiliad undydd i wasanaethau cadeiriau olwyn yng Nghymru - tystiolaeth lafar

(13.30 - 14.15)

2a

Safbwynt darparwr y GIG

HSC(4)-09-12 papur 1

Helen Hortop, Pennaeth y Gwasanaeth Aelodau Artiffisial a Chyfarpar, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Fiona Jenkins, Cyfarwyddwr Gweithredol y Gwyddorau Therapïau ac Iechyd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Andrew Lloyd, Pennaeth Ansawdd a TG, Y Gwasanaeth Aelodau Artiffisial a Chyfarpar, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

 

HSC(4)-09-12 papur 2

Dr Maire Doran, Gwasanaeth Aelodau Artiffisial a Chyfarpar Gogledd Cymru

Gareth Evans, Cyfarwyddwr Clinigol Perfformiad a Gwella, Canllawiau Ymarfer Clinigol Therapïau a Chymorth Clinigol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor ynghylch gwasanaethau cadeiriau olwyn yng Nghymru.

 

2.2 Cytunodd Dr Doran i ddarparu’r wybodaeth ychwanegol a ganlyn ar gais y Pwyllgor:

 

·         Diffiniad o ‘atgyweirio’ (fel y cyfeiriwyd ato yn ystod y drafodaeth ynghylch llwyddiant yr atgyweiriwr cymeradwy o ran cyrraedd targedau);

·         Ei barn ynghylch y llwybr ar gyfer datblygu gwasanaethau yng ngogledd Cymru dros y 12 mis nesaf;

·         Copi o’r llythyr dyrannu a gafwyd gan Lywodraeth Cymru ar ôl gwrthod cais gwasanaeth gogledd Cymru am adnoddau i gefnogi gwasanaethau i oedolion.

 

2.3 Cytunodd Mr Lloyd i ddarparu copi drafft o’r broses gyfeirio newydd sy’n cael ei datblygu gan Wasanaeth Aelodau Artiffisial a Chyfarpar de Cymru.

 

2.4 Cytunodd y tystion i gyflwyno eu barn ynghylch y tri maes allweddol lle mae angen cynnydd pellach mewn gwasanaethau cadeiriau olwyn yng Nghymru.

 

(14.15 - 15.00)

2b

Safbwynt y cynllunydd

HSC(4)-09-12 papur 3

Dr Cerilan Rogers, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Arbenigol a Thrydyddol, Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru

Mr Daniel Phillips, Cadeirydd, Bwrdd Partneriaeth Gwasanaeth Symudedd ac Ystum Corff Cymru Gyfan

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.5 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan Aelodau’r Pwyllgor ynghylch gwasanaethau cadeiriau olwyn yng Nghymru.

 

2.6 Cytunodd Dr Rogers i ddarparu gwybodaeth bellach er mwyn egluro’r amserlen o ran cynllunio a darparu manyleb gwasanaethau o safbwynt Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru / Bwrdd Partneriaeth Gwasanaeth Symudedd ac Ystum Corff Cymru Gyfan.

 

 

(15.00)

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitem 4

Cofnodion:

3.1 Cymeradwyodd y Pwyllgor y cynnig i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitem 4.

(15.00 - 15.30)

4.

Ymchwiliad undydd i wasanaethau cadeiriau olwyn yng Nghymru - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a oedd wedi’i chael ynghylch gwasanaethau cadeiriau olwyn yng Nghymru a chytunodd y dylai papur yn nodi’r themâu allweddol o’r dystiolaeth gael ei baratoi ar gyfer ei ystyried.

Trawsgrifiad