Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Llinos Dafydd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Darren Millar a Lynne Neagle. Nid oedd neb yn dirprwyo. |
||
(09.30 - 10.20) |
Ymchwiliad i’r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru - tystiolaeth gan Goleg Nyrsio Brenhinol Cymru HSC(4)-11-11 papur 1 Lisa Turnbull, Cynghorydd Polisi a Materion
Cyhoeddus Sue Thomas, Cynghorydd Gofal Sylfaenol a’r Sector Annibynnol Toriad 10.20 – 10.30 Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor ynghylch y cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru. 2.2 Cytunodd y tystion i ddarparu gwybodaeth ychwanegol am y modelau a ddefnyddir i ddarparu gofal iechyd sylfaenol yn Lloegr. |
|
(10.30 - 11.15) |
Ymchwiliad i’r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru - tystiolaeth gan Diabetes UK Cymru a'r Gymdeithas Cynllunio Teulu HSC(4)-11-11 papur 2 – Diabetes UK Cymru Jason Harding, Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus, Diabetes UK Cymru HSC(4)-11-11 papur 3 – Y Gymdeithas Cynllunio Teulu
Melanie Gadd, Cydlynydd Prosiect ar gyfer prosiect Jiwsi’r gymdeithas Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor ynghylch y cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru. 3.2 Cytunodd y Gymdeithas Cynllunio Teulu i ddarparu’r canlynol: · Ffigurau ar nifer y fferyllfeydd yng Nghymru sy’n cymryd rhan yn y cynllun atal cenhedlu hormonaidd brys (EHC); a · Rhagor o fanylion ynghylch a oes amrywiaeth ledled Cymru yng ngallu’r rhwydwaith fferyllfeydd cymunedol i ddarparu gwasanaethau EHC. 3.3 Gofynnodd y Pwyllgor am nodyn gan ei ysgrifenyddiaeth sy’n archwilio i ba raddau mae trefniadau ar waith i fferyllwyr drosglwyddo’u hyfforddiant a’u cymwysterau ar draws ffiniau byrddau iechyd lleol gwahanol a rhwng Cymru a Lloegr. |
|
Papurau i'w nodi Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol – gwybodaeth ychwanegol am gyllideb ddrafft 2012-13. HSC(4)-11-11 papur 4 Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethu Cymdeithasol yn cynnwys y wybodaeth ychwanegol am gyllideb ddrafft 2012-13. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog i ofyn am gadarnhad o’r union ffigur a ddefnyddiwyd gan y Llywodraeth, wrth gyfrifo’r gyllideb, i adlewyrchu’r chwyddiant ym maes iechyd. |
||
(11.15) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.24(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitem 6 Cofnodion: 5.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig i wahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitem 6 yn unol â Rheol Sefydlog 17.42(vi). |
|
(11.15 - 11.45) |
Ymchwiliad i leihau'r risg o strôc - trafodaeth breifat am y prif faterion Cofnodion: 6.1 Trafododd y Pwyllgor brif negeseuon ac argymhellion yr ymchwiliad i leihau'r risg o strôc. |
|
Trawsgrifiad |