Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Llinos Madeley 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1.      Cafwyd ymddiheuriadau gan Leighton Andrews AC a Lynne Neagle AC. Roedd Jenny Rathbone AC yn dirprwyo ar ran Lynne Neagle AC.

 

(09:15-10:15)

2.

Ymchwiliad i'r mynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 3

Cedar

Dr Grace Carolan-Rees

 

Y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (NICE)

Sally Chisholm

 

Dr Peter Groves, clinigydd ac is-gadeirydd Pwyllgor Cynghori ar Dechnoleg Feddygol NICE

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1. Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 

2.2. Cytunodd Sally Chisholm i ddarparu'r wybodaeth ychwanegol a ganlyn:

  • Cyfeiriadau at dystiolaeth am y ffactorau sy'n dylanwadu ar bobl, o safbwynt aml-ddisgyblaethol, pan fyddant yn penderfynu a ydynt am integreiddio technolegau unigol yn eu harferion clinigol ai peidio;
  • Rhagor o wybodaeth ynglŷn â pha gyrff iechyd yng Nghymru sy'n cyfrannu ar hyn o bryd at y gwaith o ddatblygu canllawiau a rhaglen waith gyffredinol gan NICE;
  • Rhagor o fanylion am y cynllun cymell - taliadau Comisiynu Ansawdd ac Arloesedd (CQUIN) - sydd ar waith yn Lloegr i annog rhagor o bobl i ddefnyddio arloesedd o fewn y gwasanaeth iechyd.

 

(10:15-11:05)

3.

Ymchwiliad i'r mynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 4

Dr Susan Peirce

 

Y Sefydliad Ffiseg a Pheirianneg ym maes Meddygaeth

Yr Athro Stephen Keevil, Llywydd

Yr Athro Colin Gibson, Peiriannydd Clinigol Ymgynghorol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1. Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 

(11:15-12:05)

4.

Ymchwiliad i'r mynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru: Sesiwn dystiolaeth 5

Yr Athro Ceri Phillips, Athro Economeg Iechyd, Prifysgol Abertawe

 

Yr Athro David Cohen, Athro Economeg Iechyd Prifysgol De Cymru sydd wedi ymddeol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1. Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 

4.2. Gohiriwyd y cyfarfod am gyfnod byr yn ystod eitem 4 o ganlyniad i drafferthion technegol.

 

5.

Papurau i’w nodi

Llythyr gan Christine Chapman, Cadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, mewn perthynas â sesiwn dystiolaeth y Prif Weinidog ar faterion yn ymwneud â'r Gymraeg.

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1. Nododd y Pwyllgor ei fwriad i wahodd Comisiynydd y Gymraeg i sesiwn yn y dyfodol. Diben y sesiwn fydd ymchwilio i'r materion sy'n codi fel rhan o'i hymchwiliad i ofal sylfaenol yng Nghymru, ac ymchwilio i faterion eraill sy'n rhan o'i hawdurdodaeth sy'n dod o fewn cylch gwaith y Pwyllgor.