Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd

Cyswllt: Polisi: Llinos Dafydd 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Kirsty Williams a Lindsay Whittle. Roedd Gwyn R. Price yn dirprwyo ar ran Mick Antoniw ac roedd Jenny Rathbone yn dirprwyo ar ran Vaughan Gething.

(09.00 - 10.00)

2.

Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru): Cyfnod 1 - Sesiwn dystiolaeth 4

HSC(4)-02-13 papur 1

 

Cymdeithas Yswirwyr Prydain

 

Nick Starling, Cyfarwyddwr Yswiriant Cyffredinol, Cymdeithas Yswirwyr Prydain;

Dominic Clayden, Cyfarwyddwr Hawliadau Prydain ac Iwerddon, Aviva;

Faye Glasspool, Cyfarwyddwr Etifeddiaeth y DU, RSA

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Gymdeithas Yswirwyr Prydain.

 

2.2 Gofynnodd y Cadeirydd fod copi o’r llythyr a gafodd gan Gomisiwn y Gyfraith yn cael ei anfon at y tystion.

 

2.3 Cytunodd y Pwyllgor y byddai’n ddefnyddiol cael papur gan y Gwasanaeth Ymchwil ar Ymgynghoriad yr Adran Iechyd yn 2002 y cyfeiriodd y tystion ato.

(10.00 - 10.30)

3.

Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru): Cyfnod 1 - Sesiwn dystiolaeth 5

HSC(4)-02-13 papur 2

 

Fforwm y Cyfreithwyr Yswiriant 

 

Simon Cradick, Partner, Morgan Cole PAC, yn cynrychioli Fforwm y Cyfreithwyr Yswiriant 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Fforwm y Cyfreithwyr Yswiriant.

 

(10.30 - 11.00)

4.

Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru): Cyfnod 1 - Sesiwn dystiolaeth 6

HSC(4)-02-13 papur 3

 

Cymdeithas yr Yswirwyr Niwed Personol - Cymru (APIL Wales)

 

Michael Imperato, Cydgysylltydd APIL Wales

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Gymdeithas yr Yswirwyr Niwed Personol - Cymru (APIL Wales).

(11.00 - 11.30)

5.

Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru): Cyfnod 1 - Sesiwn dystiolaeth 7

HSC(4)-02-13 papur 4

 

Gofal Canser Marie Curie

 

Simon Jones, Pennaeth Polisi a Materion Cyhoeddus, Cymru

Hosbis Marie Curie, Caerdydd a’r Fro

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Ofal Canser Marie Curie.

6.

Papurau i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1  Cymeradwyodd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Ionawr 2013.

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

Eitem 8

Cofnodion:

7.1 Penderfynodd y Pwyllgor, yn unol â Rheol Sefydlog 17.42(ix), i gyfarfod yn breifat ar gyfer eitem 8.

(11.30 - 12.00)

8.

Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru): barn y cynghorwyr arbenigol

Cofnodion:

8.1 Gofynnodd Aelodau am amser ychwanegol i ystyried yr ymgeiswyr polisi ond cytunodd y gellid cysylltu’n ffurfiol â’u hymgeisydd cyfreithiol o ddewis.

Trawsgrifiad