Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd

Cyswllt: Polisi: Llinos Dafydd  / Deddfwriaeth: Fay Buckle

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Nid oedd unrhyw ymddiheuriadau na dirprwyon.

 

(09.15 - 12.25)

2.

Ymchwiliad i’r gwaith o weithredu’r fframwaith gwasanaeth cenedlaethol ar gyfer diabetes yng Nghymru a’i ddatblygiad yn y dyfodol - Tystiolaeth lafar

(09.15 - 10.15)

2a

Y Grŵp Cynghori Arbenigol Cenedlaethol ar Ddiabetes ac Endocrinoleg

HSC(4)-32-12 papur 1

          Dr Phil Evans, Cadeirydd

Dr Mike Page, Cadeirydd, Cymdeithas Endocrinoleg a Diabetes Cymru

          Julie Lewis, prif nyrs diabetes arbenigol Cymru

Yr Athro Stephen Bain, Cadeirydd, Rhwydwaith Ymchwil Diabetes Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Atebodd y tystion gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 

2.2 Cytunodd Dr Evans i ddarparu copi o’r ddogfen a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru yn 2010 ar argaeledd addysg strwythuredig am ddiabetes math 1 yng Nghymru.

 

(10.15 - 10.45)

2b

Gwasanaeth Sgrinio ar gyfer Retinopathi Diabetig Cymru

HSC(4)-32-12 papur 2

          Yr Athro Richard Roberts

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.3 Atebodd Mr Roberts gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 

 

(10.55 - 11.35)

2c

Coleg Brenhinol Nyrsio Cymru

HSC(4)-32-12 papur 3

          Lisa Turnbull, Cynghorydd Polisi a Materion Cyhoeddus

          Nicola Davies-Job, Cynghorydd Gofal Aciwt

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.4 Atebodd y tystion gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 

2.5 Cytunodd y tystion i ddarparu tystiolaeth ysgrifenedig ychwanegol ar y lleihad honedig yn nifer y nyrsys diabetes arbenigol mewn blynyddoedd diweddar a rôl y nyrsys diabetes arbenigol ar y Grwpiau Cynllunio a Chyflenwi ar gyfer Diabetes.

 

 

(11.35 - 12.25)

2d

Swyddogion Llywodraeth Cymru

HSC(4)-32-12 papur 4

David Sissling, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant

Dr Chris Jones, Cyfarwyddwr Meddygol GIG Cymru a’r Dirprwy Brif Swyddog Meddygol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.6 Atebodd Mr Sissling and Dr Jones gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 

2.7 Cytunodd Dr Jones i ddarparu tystiolaeth ysgrifenedig ychwanegol ar wasanaethau podiatreg ledled Cymru a chopïau o’r llythyron a anfonwyd at fyrddau iechyd ar ôl yr Archwiliad Diabetes Cenedlaethol.

 

 

(12.25 - 12.30)

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.17 i sefydlu Is-bwyllgor i gymryd tystiolaeth ar y Rheoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) (Diwygio) 2012

HSC(4)-32-12 papur 5

 

Bod y Pwyllgor yn penderfynu, o dan Reol Sefydlog 17.17, sefydlu is-bwyllgor i gymryd tystiolaeth ar Reoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) (Diwygio) 2012;

mai cylch gwaith yr is-bwyllgor hwnnw yw cymryd tystiolaeth, ar yr un pryd â’r is-bwyllgor a sefydlwyd gan y Pwyllgor Menter a Busnes ar Reoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) (Diwygio) 2012.  Bydd yr is-bwyllgor yn ceisio cytuno ar gynnwys adroddiad a lunnir ar y cyd â’r is-bwyllgor a sefydlwyd gan y Pwyllgor Menter a Busnes er mwyn llywio trafodaethau’r Cynulliad ar y rheoliadau. Bydd yr Is-bwyllgor yn cael ei ddiddymu unwaith y bydd y Cynulliad wedi trafod y rheoliadau yn y Cyfarfod Llawn;

bod aelodaeth yr is-bwyllgor yn cynnwys Mark Drakeford AC, Vaughan Gething AC, Elin Jones AC, Darren Millar AC a Lynne Neagle AC, gyda Mark Drakeford AC wedi’i ethol yn Gadeirydd.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cytunodd y Pwyllgor â’r cynnig.

 

4.

Papurau i'w nodi

Cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 15 & 21 Tachwedd.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 15 a 21 Tachwedd.

 

 

Trawsgrifiad