Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd

Cyswllt: Polisi: Llinos Dafydd  / Deddfwriaeth: Fay Buckle

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Lynne Neagle. Nid oedd unrhyw ddirprwyon yn bresennol.

 

(10.30 - 12.00)

2.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2013-2014 - craffu ar waith y Gweinidogion

HSC(4)-27-12 papur 1

Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Gwenda Thomas AC, y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol

David Sissling, y Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant

Steve Milsom, y Dirprwy GyfarwyddwrPolisi Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion

Alan Brace, Cyn Gyfarwyddwr Adnoddau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1Atebodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol gwestiynau aelodau’r Pwyllgor.  

3.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

3.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ.

 

3a

Llythyr gan y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ - Rheoliadau Mangreoedd Di-fwg (Cymru) (Diwygio) 2012

HSC(4)-27-12 (papur 2)

Dogfennau ategol:

(12.00)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i eithrio'r cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitem 4

Cofnodion:

4.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y Cynnig.

(12.00 - 12.30)

5.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2013-2014 - trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafodd a’r prif faterion i’w cynnwys yn ei lythyr at y Pwyllgor Cyllid.

Trawsgrifiad