Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sarah Beasley
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad |
||
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod. 1.2 Cafwyd
ymddiheuriadau am absenoldeb gan Mark Isherwood AC a Gwenda Thomas AC.
Dirprwyodd John Griffiths AC ar ran Gwenda Thomas AC yn unol â Rheol Sefydlog
17.48. 1.3 Gwnaeth Alun Davies
AC a Janet Finch-Saunders AC ddatganiadau o fuddiant fel landlordiaid yn y
sector rhentu preifat. |
||
(09.15 - 10.15) |
Y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru): Sesiwn dystiolaeth 2 - Cymdeithas y Cyfreithwyr Jane Plant,
Cadeirydd y Pwyllgor Cyfraith Tai, Cymdeithas y Cyfreithwyr Rhiannon
Price, aelod o Bwyllgor Cyfraith Tai, Cymdeithas y Cyfreithwyr Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan: ·
Jane Plant, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfraith Tai, Cymdeithas y Cyfreithwyr ·
Rhiannon Price, aelod o'r Pwyllgor Cyfraith Tai, Cymdeithas y Cyfreithwyr ·
Cytunodd
Cymdeithas y Cyfreithwyr i ddarparu gwybodaeth ychwanegol ar ddichonolrwydd
ehangu'r Tribiwnlys Eiddo Preswyl yng Nghymru i ddatrys anghydfodau sy'n codi o
dan y Bil, yn hytrach na dibynnu ar y llysoedd. |
|
(10.30 - 11.30) |
Y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru): Sesiwn dystiolaeth 3 - Let Down in Wales, Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru, Tenantiaid Cymru Liz
Silversmith, Let Down in Wales Steve
Clark, Tenantiaid Cymru Beth
Button, Llywydd, Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan: ·
Liz Silversmith, Let Down in Wales ·
Steve Clark, Tenantiaid Cymru ·
Beth Button, Llywydd, UCM Cymru |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod (trafodaeth ar y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 2 a 3, trafod yr ymgynghoriad ar God Ymarfer ar y Sector Rhentu Preifat ar gyfer Landlordiaid ac Asiantau, ystyried yr adroddiad drafft ar yr ymchwiliad i Dlodi yng Nghymru elfen 1, ac ystyried y dull o graffu ar y Bil Amgylchedd Hanesyddol (Cymru)) Cofnodion: 4.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y
cynnig |
||
(11.30 - 11.45) |
Y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru): trafodaeth ar y dystiolaeth a ddaeth i law yn ystod sesiynau 2 a 3 Cofnodion: 5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law yn
ystod sesiynau 2 a 3. |
|
(11.45 - 12.00) |
Trafod yr ymgynghoriad ar God Ymarfer ar y Sector Rhentu Preifat ar gyfer Landlordiaid ac Asiantau Cofnodion: 6.1 Ystyriodd y Pwyllgor ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar
God Ymarfer ar y Sector Rhentu Preifat Ymarfer ar gyfer Landlordiaid ac
Asiantau a chytunodd i ymchwilio ymhellach i'r mater. |
|
(12.00 - 12.30) |
Ymchwiliad i Dlodi yng Nghymru Elfen 1: ystyried yr adroddiad drafft Cofnodion: 7.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft. |
|
(12.30 - 12.45) |
Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru): Ystyried dull craffu’r Pwyllgor Cofnodion: 8.1
Ystyriodd y Pwyllgor ei ddull o graffu ar Fil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru),
yn amodol ar y Bil yn cael ei gyflwyno. |