Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd

Cyswllt: Sarah Beasley 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1.      Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau, a Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth a’i swyddogion i’r cyfarfod.

 

(09:15-10:45)

2.

Craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2014-2015 - Sesiwn dystiolaeth gyda Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth

 

Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth,

Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr, Llywodraeth Leol

Owain Lloyd, Dirprwy Gyfarwyddwr Gweithrediadau, Cymunedau a Llywodraeth Leol

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1. Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Weinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth.

 

Camau i’w cymryd:

 

Cytunodd y Gweinidog i wneud y canlynol:

 

·         trefnu i ddwyn ynghyd mewn un lle yr holl asesiadau o effaith ar gydraddoldeb ar gyfer awdurdodau lleol, oni bai bod y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb am faterion cydraddoldeb yn gwneud hynny eisoes.

·         rhoi enghreifftiau o achosionpan na roddwyd cyllid cytundebau canlyniadau i awdurdodau lleol mewn blynyddoedd blaenorol. 

·         nodi sut y mae elfen Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor o’r Grant Cynnal Ardrethi wedi’i dosbarthu eleni a sut, o bosibl, y gwneir hynny’r flwyddyn nesaf.

·         trefnu i nodyn gael ei ddarparu sy’n egluro o gyllideb pa Weinidog y daw’r arian ar gyfer gweithredu’r Bil Teithio Llesol (Cymru).

·         darparu nodyn i egluro a oes unrhyw gyfyngiadau ar awdurdodau lleol o ran eu gwerthiannau masnachol, ac, os felly, a oes unrhyw gynlluniau i adolygu hynny er mwyn galluogi awdurdodau lleol i greu mwy o incwm.

 

Cytunodd y Cadeirydd i wneud y canlynol:

 

·         Dosbarthu’r adolygiad a gafodd ei gydgysylltu gan Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a oedd yn ystyried y ffioedd a’r taliadau a godir am wasanaethau awdurdodau lleol, os yw’r adroddiad ar gael yn gyhoeddus.

·         Dangos llythyr i’r Gweinidog gan SOLACE - sef y Gymdeithas ar gyfer Prif Weithredwyr ac Uwch-reolwyr Awdurdodau Lleol - a gafwyd fel rhan o ymchwiliad y Pwyllgor i’r cynnydd mewn cydweithio rhwng awdurdodau lleol.

 

(11:00-12:30)

3.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2014-15 – Sesiwn dystiolaeth gyda’r Gweinidog Tai ac Adfywio

Carl Sargeant AC, y Gweinidog Tai ac Adfywio,

John Howells, Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio

Steve Hudson, Pennaeth Cyllid, Cartrefi a Lleoedd

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1. Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau, y Gweinidog Tai ac Adfywio a’i swyddogion i’r cyfarfod. Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog.

 

Camau i’w cymryd:

 

Cytunodd y Gweinidog i ddarparu’r canlynol:

 

·         Rhagor o fanylion am delerau ad-dalu’r Cyllid Trafodion Ariannol sy’n cael ei ddarparu ar gyfer y cynllun benthyciad ecwiti Help i Brynu ar ôl i’r telerau hynny gael eu trafod gyda Thrysorlys ei Mawrhydi;

·         Rhagor o fanylion am yr effaith hirdymor y mae diwygio lles yn ei chael ar gymunedau, pan fydd y wybodaeth honno ar gael (awgrymodd y Gweinidog y byddai’r wybodaeth honno ar gael mewn 12 mis fan bellaf).

·         Manylion am gynnydd yr wyth Awdurdod Lleol nad oeddent wedi cwblhau eu cofrestrau cartrefi hygyrch pan oedd y Gweinidog yn gwneud gwaith yn y maes hwn y llynedd.

·         Papur diwygiedig ar y gyllideb yn cynnwys manylion am y gronfa gofal canolraddol yn y gyllideb gyfalaf.