Agenda a chofnodion drafft
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - Y Senedd
Cyswllt: Gareth Williams Cyswllt am y Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) - Bethan Davies 029 2089 8120
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1.1. Croesawodd y Cadeirydd aelodau’r Pwyllgor,
y tystion ac aelodau o’r cyhoedd i’r cyfarfod. 1.1.2. Cafwyd ymddiheuriadau ar gyfer eitem 2 gan
Rhodri Glyn Thomas a Peter Black oherwydd eu swyddi yng Nghomisiwn y Cynulliad.
Fodd bynnag, roedd Rhodri Glyn Thomas yn bresennol i roi tystiolaeth i’r
Pwyllgor yn rhinwedd ei swydd fel Comisiynydd y Cynulliad sydd â chyfrifoldeb
dros y Gymraeg ac fel yr Aelod â chyfrifoldeb dros y Bil. 1.1.3. Croesawodd y Cadeirydd Alun Ffred Jones ac
Eluned Parrott i’r cyfarfod, a oedd yn dirprwyo ar eu rhan, yn unol â Rheol
Sefydlog 17.48. 1.1.4. Croesawodd y Cadeirydd Peter Black a
Rhodri Glyn Thomas a oedd yn bresennol ar gyfer eitemau 3, 4 a 5. |
||
9.30-10.45 |
Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol): Sesiwn Dystiolaeth Cyfnod 1 - Y Comisiynydd sydd â chyfrifoldeb dros yr iaith Gymraeg Cofnodion: 2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Rhodri Glyn Thomas AC, y Comisiynydd sydd â chyfrifoldeb dros y Gymraeg. 2.2 Cytunodd y Comisiynydd i ddarparu gwybodaeth ychwanegol i’r Pwyllgor. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Cofnodion: 3.1 Cytunodd y Pwyllgor i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar
gyfer eitemau 4 a 5. |
||
10.45-11.00 |
Ystyried yr addroddiad drafft - Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Gwasanaethau Ariannol Cofnodion: 4.1 Cytunodd y Pwyllgor
ar yr adroddiad
a nododd y bydd yn cael ei
osod gerbron y Cynulliad. |
|
11.00-11.30 |
Ystyried yr adroddiad drafft - Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) Cofnodion: 5.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft. |
|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod. |