Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd

Cyswllt: Polisi: Marc Wyn Jones  / Legislation: Helen Finlayson

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

(09.15)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan Ken Skates a Rhodri Glyn Thomas. Roedd Leighton Andrews yn dirprwyo ar ran Ken Skates, a Jocelyn Davies ar ran Rhodri Glyn Thomas.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Ken Skates am ei gyfraniad i’r Pwyllgor a’i longyfarch ar ei benodiad yn Ddirprwy Weinidog. 

(09.15 - 10.15)

2.

Ymchwiliad i lefelau cyfranogiad mewn chwaraeon – sesiwn dystiolaeth 7

CELG(4)-21-13 – Papur 1

 

John Griffiths – Y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon
Huw Brodie – Cyfarwyddwr, yr Adran Diwylliant a Chwaraeon
Jon Beynon – Uwch Gynghorydd Polisi Chwaraeon

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon. Cytunodd y Gweinidog i ddarparu’r wybodaeth ganlynol:

 

rhagor o wybodaeth am yr arolwg o hamdden awyr agored yng Nghymru a nodyn ar y prosiect gemau stryd.

(10.30 - 11.10)

3.

Ymchwiliad i lefelau cyfranogiad mewn chwaraeon - sesiwn dystiolaeth 8

CELG(4)-21-13 – Papur 2

 

Edwina Hart – Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Rob Holt - Pennaeth Strategaeth Twristiaeth

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth. Cytunodd y Gweinidog i ddarparu’r wybodaeth ganlynol:

 

y diffiniadau o ddigwyddiadau chwaraeon mawr a ddefnyddiwyd gan yr uned i gategoreiddio digwyddiadau yng Nghymru a chan Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon y DU i werthuso effaith gemau Olympaidd 2012 ac yn benodol o ran y canlyniadau ehangach.

 

 

(11.10)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

Eitemau 5 a 6

 

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor â’r cynnig.

(11.10 - 11.50)

5.

Ymchwiliad i addasiadau yn y cartref – ystyried yr adroddiad drafft

CELG(4)-21-13 – Papur preifat 3

 

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a nodi y byddai’n cael ei ystyried ymhellach yn y cyfarfod nesaf. 

(11.50 - 12.00)

6.

Blaenraglen waith y Pwyllgor – ystyried yr ymchwiliad nesaf

CELG(3)-21-13 – Papur preifat 4

 

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gynnal ei ymchwiliad nesaf i gydweithrediad llywodraeth leol. Caiff cylch gorchwyl drafft ei ystyried yn y cyfarfod nesaf.