Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor.  Cafwyd ymddiheuriadau gan Angela Burns a Rebecca Evans.  Nododd y Cadeirydd y byddai Paul Davies yn dirprwyo ar ran Angela Burns hyd nes y clywir yn wahanol.  Dirprwyodd John Griffiths ar ran Rebecca Evans.

 

Nododd y Cadeirydd na fydd Bethan Jenkins, gan mai hi yw'r Aelod sy'n gyfrifol am y Bil Addysg a Chynhwysiant Ariannol (Cymru), yn mynychu unrhyw sesiynau Pwyllgor sy'n ymwneud â'r Bil.  Ni fydd dirprwy ar ei rhan yng Nghyfnod 1.

(09.30 - 10.30)

2.

Y Bil Addysg a Chynhwysiant Ariannol (Cymru) - Sesiwn Dystiolaeth 1

Bethan Jenkins AC Aelod sy'n gyfrifol

 

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Bethan Jenkins AC.  Cytunodd yr Aelod i ddarparu nodyn ynghylch Adran 12 o'r Bil, gan nodi'n benodol sut y bydd awdurdodau lleol yn datblygu ac yn cynnal rhestr o ffynonellau cyngor a sut y gallant sicrhau bod y cyngor hwnnw'n ddibynadwy.

(10.30 - 11.30)

3.

Y Bil Addysg a Chynhwysiant Ariannol (Cymru) - Sesiwn Dystiolaeth 2

Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru

CYPE(4)-21-14 – Papur 1

 

Eifion Evans, Cyfarwyddwr Addysg Ceredigion a Chadeirydd y Gymdeithas

Pierre Bernhard-Grout, Swyddog Gweithredol Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru.

(11.30 - 12.00)

4.

Y Bil Addysg a Chynhwysiant Ariannol (Cymru) - Sesiwn Dystiolaeth 3

Canolfan Cydweithredol Cymru

CYPE(4)-21-14 – Papur 2

 

Jocelle Lovell, Rheolwr Prosiect

Dave Brown, Cyfarwyddwr Strategaeth

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ganolfan Cydweithredol Cymru.

5.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

Nodwyd y papurau.

5.1

Gwybodaeth ychwanegol gan Addysg Uwch Cymru yn dilyn cyfarfod 25 Mehefin

CYPE(4)-21-14 – Papur 3 i'w nodi

 

Dogfennau ategol:

5.2

Llythyr gan Addysg Uwch Cymru at y Pwyllgor Cyllid

CYPE(4)-21-14 – Papur 4 i'w nodi

 

Dogfennau ategol:

5.3

Gwybodaeth ychwanegol gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn dilyn y cyfarfod ar 17 Gorffennaf

CYPE(4)-21-14 – Papur 5 i'w nodi

 

Dogfennau ategol:

5.4

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau

CYPE(4)-21-14 – Papur 6 i'w nodi

 

Dogfennau ategol:

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

Item 7

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig

(12.00 - 12.30)

7.

Y Bil Addysg Uwch (Cymru) – Ystyried adroddiad drafft Cyfnod 1

CYPE(4)-21-14 – Papur preifat 7

 

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft.  Cytunwyd y byddai'r adroddiad yn cael ei ystyried ymhellach yn y cyfarfod nesaf.