Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd
Cyswllt: Polisi: Claire Morris / Deddfwriaeth: Sarah Beasley
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(13.15) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Simon Thomas, Suzy Davies a Julie Morgan. Roedd David Rees yn dirprwyo ar ran Julie Morgan. |
|
(13.15 - 14.15) |
Ymchwiliad i fabwysiadu Cyngor Dinas a Sir Caerdydd a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam Angela Bourge – Gwasanaethau Plant, Cyngor Dinas a Sir Caerdydd Kim Perkins – Gwasanaethau Plant, Cyngor Dinas a Sir Caerdydd Mandy Humphries – Rheolwr, Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gyngor Sir Caerdydd a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar yr ymchwiliad i fabwysiadu. |
|
(14.15 - 15.00) |
Ymchwiliad i fabwysiadu Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Emily Warren – Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Nigel Brown – Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gwasanaethau Plant, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent Buddug Ward – Cyfarwyddwr Cynorthwyol yr Adran Plant a Theuluoedd, Cyngor Sir Ceredigion Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1
Cafodd y pwyllgor dystiolaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a’r Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol ar yr ymchwiliad
i fabwysiadu. |
|
Trawsgrifiad |