Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Polisi: Claire Morris  / Is-ddeddfau: Sarah Beasley

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09:00)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau.

(09:00 - 10:00)

2.

Ymchwiliad i ofal newyddenedigol

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Lesley Griffiths AC

Dr Chris Jones, Cyfarwyddwr Meddygol, GIG Cymru, Llywodraeth Cymru

Jean White, Prif Swyddog Nyrsio, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’i swyddogion mewn perthynas â’r ymchwiliad i ofal newyddenedigol.

 

2.2 Cytunodd y Gweinidog i ymchwilio i’r honiad bod rhai achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal wedi digwydd yn sgìl penderfyniadau a wnaed gan reolwyr gwasanaethau ambiwlans, a chytunodd i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor gan nodi ei chanfyddiadau.

 

2.3 Cytunodd Suzy Davies AC i ysgrifennu at y Gweinidog gan nodi ei phryderon ynghylch amseroedd ymateb.

(10:00)

3.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd ar gyfer eitem 4

Cofnodion:

4.1 Cymeradwywyd y cynnig.

(10:00 - 10:15)

4.

Ymchwiliad i ofal newyddenedigol: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

4.1 Cytunodd yr Aelodau i gyhoeddi adroddiad ar eu canfyddiadau.

(10:30 - 11:15)

5.

Bil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru): Cyfnod 1 - Sesiwn dystiolaeth 2

Estyn

Ann Keane, Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru

Meilyr Rowlands, Cyfarwyddwr Strategol

Simon Brown, Cyfarwyddwr Strategol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ann Keane, Prif Arolygydd ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru; Meilyr Rowlands, Cyfarwyddwr Strategol, Estyn; a Simon Brown, Cyfarwyddwr Strategol, Estyn.

 

5.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Estyn gyda rhagor o gwestiynau.

(11:15 - 12:00)

6.

Bil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru): Cyfnod 1 - Sesiwn dystiolaeth 2

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru (CCAC)

Dr Chris Llewelyn, Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes, Hamdden a Gwybodaeth (CLlLC)

Ian Budd, Cadeirydd CCAC

David Hopkins, CLILC

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Dr Chris Llewelyn, Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes, Hamdden a Gwybodaeth, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru; Ian Budd, Cadeirydd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru; a David Hopkins, Cadeirydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

 

6.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru gyda rhagor o gwestiynau.

 

Trawsgrifiad