Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Polisi: Claire Morris
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(12:45) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd
ymddiheuriadau. |
|
(12:45 - 14:00) |
Ymchwiliad i ofal newyddenedigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Geoff Lang – Prif Weithredwr Dros Dro Dr Brendan Harrington – Pennaeth Staff Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Fwrdd Iechyd
Prifysgol Betsi Cadwaladr ar wasanaethau newyddenedigol. Camau i’w cymryd: Cytunodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ddarparu
ffigyrau mwy diweddar ar raddfeydd marwolaethau babanod yng nghymuned iechyd
gogledd Cymru. Cytunodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i baratoi
nodyn ar ansawdd a’r gwasanaethau y mae’n eu cynnig ar gyfer gofal
newyddenedigol. Cytunodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Betsi
Cadwaladr i anfon copi o’r archwiliad diweddaraf a gynhaliwyd ar ei wasanaethau
newyddenedigol dibyniaeth isel ledled cymuned iechyd gogledd Cymru. Cytunodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ddarparu
enghreifftiau ac esboniadau o’r pedwar achos cofnodedig o oedi gydag
ambiwlansys a oedd yn rhan o’r wybodaeth a gyflwynwyd i’r Pwyllgor. Bydd y
Bwrdd hefyd yn darparu, os ydynt ar gael, yr amseroedd teithio disgwyliedig i
ambiwlansys o brif ganolfannau gogledd Powys i Ysbyty Maelor Wrecsam ac Ysbty
Glan Clwyd. |
|
(14.05 - 15.05) |
Ymchwiliad i ofal newyddenedigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg Paul Roberts – Prif Weithredwr Hamish Laing, Cyfarwyddwr y Strategaeth Glinigol Bwrdd Iechyd Hywel Dda Trevor Purt – Prif
Weithredwr Dr Simon Fountain-Polley – Pediatregydd Ymgynghorol / Cyfarwyddwr y Rhaglen Glinigol – Iechyd Plant a Menywod Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Fwrdd Iechyd
Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a Bwrdd Iechyd Hywel Dda ar wasanaethau
newyddenedigol. Camau i’w cymryd: Cytunodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda i anfon fersiwn wedi’i
diweddaru o gynllun gweithredu gwasanaeth newyddenedigol y Bwrdd. |
|
(15:05) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem a ganlyn ac Eitem 1 yn y cyfarfod ar 23 Mai 2012 Cofnodion: 4.1 Cytunwyd ar y cynnig. |
|
(15:05 - 15:15) |
Ymchwiliad i ofal newyddenedigol: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a gafwyd a’r meysydd
posibl y byddant am holi’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn eu
cylch ar 31 Mai. |
|
Trawsgrifiad |